Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

Arddangosfa Oriel Werthu

Madoline Keeler

25 Tachwedd 2017 – 27 Ionawr 2018

Rwyf wedi bod yn cydweithio â Walter Keeler yn ddiweddar ar gyfres o fygiau llestri pridd; siapiau Walter a’m dyluniad addurnedig i ‘saeth felen’wedi’i baentio â lliwiau tanwydredd.

Lluniwyd y potiau ar gyfer y sioe hon gan Walter i’m dyluniadau i, yna fe roddais i’r addurniad tanwydredd. Fy ffocws i o fewn y grŵp hwn oedd gwneud pob darn yn un unigol, ond hefyd creu ymdeimlad cyfunol. Mae defnyddio lliw mewn cyfuniad ag ardaloedd o wyn yn sialens barhaus ac yn ffynhonnell chwilfrydedd barhaus; bydd du yn ychwanegu dimensiwn arall i’r pos diddiwedd. 

Madoline Keeler