Mae Crefft yn Cyfri
Enwebwch eich hoff Arddangosfeydd
Helpwch ni i ddathlu blwyddyn ein pen-blwydd drwy enwebu eich hoff Arddangosfeydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn y 10 mlynedd diwethaf! Oeddech chi’n hynod hoff o sioe serameg arbennig? Oeddech chi’n rhyfeddu at Emwaith, Tecstilau, Pren neu Wydr? Mae eich barn yn cyfri i ni. Dewch draw i GGRh a gweld y Wal 100+ o Arddangosfeydd i weld lluniau pob un o’n sioeau yn y gorffennol ac Enwebwch yn y blwch pleidleisio. Neu…
Cewch weld POB UN o’r Arddangosfeydd ac Enwebu YMA!
Fe luniwn ni restr fer o’r deg uchaf. Bydd y pleidleisio ar gyfer y ffefryn cyffredinol yn dechrau ym mis Medi ac fe gyhoeddir yr arddangosfa fuddugol yn Ionawr 2019 – dechrau blwyddyn newydd a ‘Degawd’ newydd i Ganolfan Grefft Rhuthun.