Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

Oriel 1, 2 & 3

Susan Halls

Brathu’n Ôl 23 Mawrth – 30 Mehefin 2024

Susan Halls yw un o artistiaid cerameg ffigurol mwyaf blaenllaw’r DG. Mae hi wedi bod yn creu ei cherfluniau nodedig o anifeiliaid ers deugain mlynedd, yn gyntaf o’r DG yn y 1990au cynnar ac yna o America lle’r oedd hi wedi ymsefydlu am ugain mlynedd. Cedwir ei gwaith yn Amgueddfa’r V&A, Canolfan Gelfyddyd Cerameg, Caerefrog ac Amgueddfa Gelfyddyd Cerameg Cyfoes, Shigaraki, Siapan. Mae hi wedi cael sylw penodol hefyd mewn llyfrau a chyhoeddiadau niferus.

Mae ei gwaith presennol, cathod yn bennaf, yn tynnu ar awen ei chath Mussels yn ogystal â’r moch a’r ffowls mae’n eu gwylio yn y caeau ac ar fuarthau ffermydd o amgylch ei stiwdio yn Poldhu, Cernyw. Er ei bod hi’n wneuthurwr dawnus nid yw Halls yn cael ei gyrru gan dechneg. Mae hi’n defnyddio’r ystod lawn o brosesau cerameg yn ôl yr angen, gan symud yn ddiymdrech o adeiladau â llaw i daflu ar droell, paentio majolica i sgraffito, racw i danio crochenwaith caled, er mwyn dod â’i lluniadau’n fyw mewn clai. Mae ei ffurfiau ansentimental o anifeiliaid yn dal bywyd, anadl a rhwysg yn llawn, ac yn ymddangos petai nhw’n barod i lamu i fywyd grwndlyd a gwawchlyd.

Brathu’n Ôl yw sioe unigol gyntaf Halls yn y DG ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn unol â’i doniau neilltuol, hi yw un o’r llond dyrnaid o artistiaid sydd wedi cael y fraint o feddiannu’r tair oriel arddangos yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Curadwyd gan Sharon Blakey ac Alex McErlain.
Ffotograffiaeth: Shannon Tofts

CYHOEDDIADAU Susan Halls

Susan Halls: Brathu’n Ôl

28 tudalen, clawr meddal
Lliw llawn, 210x210mm
ISBN 978-1-911664-30-7

Iaith: Saesneg neu Gymraeg
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2024
I archebu ffoniwch: 01824 704774
neu e-bostiwch: ruthincraftcentre@denbighshireleisure.co.uk

£10.00

………………

Mae teitlau arddangosfa yn gallu bod yn ddadlennol. Mae ceisio dal hanfod y gwaith yn golygu ystyried yn ofalus sut y caiff gwaith yr artist ei ganfod. Yn achos Susan Halls nid yw ei hanifeiliaid yn bert nac yn smala na chwaith yn bortreadau realistig o rywogaeth. Yn hytrach, mae ei gwaith yn ymwneud â sut mae’n teimlo i fod yn anifail. Lluniwyd anifeiliaid Halls yn dreiddgar ac yn ddynamig, gyda naws peryglus yn y gwynt. Anifeiliaid sy’n brathu yw eu rhai hi.

Mae ei gallu i animeiddio clai gyda’r fath argyhoeddiad o ganlyniad iddi drochi ei hun yn llwyr yn nhestun ei gwrthrychau. Mewn buarthau fferm, caeau, sŵau a chasgliadau amgueddfeydd ar draws y byd, mae Halls yn craffu am oriau ar rywogaethau gwahanol, gan gynnwys bodau dynol, gan dynnu lluniau sy’n dal hanfod eu hymddangosiad, nid yn unig yn gorfforol ond hefyd yn emosiynol. Edrychwch ar y ddwy gath yna’n ymladd a sut mae’r dannedd, y crafangau, y ffwr a’r wylofain wedi’u hymgorffori yn y clai a’r gwydredd. Mochyn â dannedd, byddin ar gerdded, ceiliog â’i lygadrythiad main a’i big yn finiocach fyth. Mae Brathu’n Ôl yn codi cwestiynau ynglŷn â phwy sy’n brathu, anifail yntau artist?

Sharon Blakey & Alex McErlain

………………