Sean Harris
Afon Amser
Galluogodd y prosiect i ni weithio mewn partneriaeth â Pharc Gwledig Loggerheads, gan beri i ni greu cyswllt diddorol rhwng darn pwysig o waith ymchwil archaeolegol yn ein hardal, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych â’r artist Sean Harris, arianwyd gan Cadwyn Clwyd.
Arweiniodd llwyddiant y bartneriaeth at gynhyrchu digwyddiad animeiddio graddfa fawr ym Mharc Gwledig Loggerheads a ysbrydolwyd gan hen hanes Bryniau Clwyd trwy gyfrwng proses gweithdy cynhwysol a gynhaliwyd dros gyfnod o fis yng Nghanolfan Grefft Rhuthun gydag ysgolion a grwpiau cymunedol.
Bu’r digwyddiad ei hun ar y 27 a 28 Mehefin, 2014 a denodd dros 200 o bobl. Roedd y digwyddiad yn cynnwys: –
• Delweddau animeiddiedig atmosfferig yn darlunio ein megaffawna a diffeithwch ‘coll’, wedi’i daflunio ar gyfres o sgriniau rhwyllog wedi’u crogi dros yr Afon Alun.
• ‘Afon’ o 1,000 oleuadau te yn fflachio o amgylch yr animeiddiad gan greu ymestyniad o’r Alun ei hun fel ‘Afon Amser’.
• Llwybr cylchol o greaduriaid rhyngweithiol animeiddiedig wedi’u cartrefu mewn ‘blychau fflic-lyfr’ tebyg i flychau adar.
Mae’r prosiect yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y cyfranogwyr mewn Celf Gyfoes ac yn y cyd-destun ehangach sy’n tanlinellu themâu yn ymwneud ag amgylchedd y rhanbarth a stori cynhanesyddol ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd gyfle i ysgolion gynnwys eu disgyblion mewn prosiect trochol yn cysylltu archaeoleg, anthropoleg a chelf. Roedd hwn yn brosiect traws-gwricwlwm creadigol ac yn adnodd gwerthfawr gan y gellir ail-ddefnyddio’r gwaith celf animeiddiedig a grëwyd ar gyfer y prosiect mewn ysgolion, a thrwy hynny greu adnodd etifeddol gwerth chweil y gellir ei ddefnyddio’n barhaus.