Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

Stiwdios Prosiect A & B

Mordeithiau

25 Tachwedd 2017 – 27 Ionawr 2018

Mordeithiau: Adam Buick a Chwedl Tresaith yn dangos gwaith gan Valerie James, Marged Pendrell a Meri Wells

Mae’r crochenydd a’r gwneuthurwr ffilmiau Adam Buick wedi datblygu’r prosiect arloesol hwn, yn seiliedig ar stori’r saith tywysoges Gwyddelig a anfonwyd dros y môr i lanio yn Nhresaith a phriodi Cymry. Mae Tresaith yn rhan o Forlin Treftadaeth Ceredigion.

Gwnaeth Adam saith o jariau lleuad a gafodd eu lansio o Iwerddon i hwylio ar draws Môr Iwerddon gyda’r gobaith o lanio’n ddiogel yng Ngheredigion. Cafodd eu taith ei chofnodi gan systemau tracio a’i siartio ar wefan.

Gwnaeth Adam ffilm, Place of Seven, am y prosiect ac fe’i dangosir ochr yn ochr â mapiau a’r jariau lleuad sydd wedi goroesi yn rhan o’r arddangosfa.

Casgliad ac Archif Serameg, Arddangosfa Deithiol Prifysgol Aberystwyth.

Screen Shot 2017-11-09 at 16.59.54