Ymweld â Rhuthun
Fe adeiladwyd tref farchnad hanesyddol Rhuthun ar fryn tywodfaen coch fel gwylfan strategol dros Afon Clwyd. Mae ei safle strategol rhwng Mynydd Hiraethog a Bryniau Clwyd wedi golygu bod yr ardal yma wedi dod yn bwysig o ran amaeth a masnach.
Mae Rhuthun â hanes bywiog a diddorol gyda llawer o atyniadau hanesyddol i’w fforio:
Carchar Rhuthun
Mae Carchar Rhuthun sydd ar ddull Pentonville, yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi bywyd fel Carcharor Fictoraidd.
Nantclwyd y Dre
Ewch ar daith o gwmpas plasty trefol ffrâm bren hynaf Prydain.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliadau hyn a mwy o atyniadau yma
I gael gwybodaeth i dwristiaid gallwch ymweld â Chyngor Sir Ddinbych yma
I gael llety ewch i wefan ‘Croeso Cymru’ yma