Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 2

Kevin Coates

12 Ebrill – 20 Gorffennaf 2014

Kevin Coates, A Bestiary of Jewels.

Newydd ei chomisiynu: ‘Kevin Coates – the making of A Bestiary…’ gan Nel Romano. Cliciwch yma i’w gweld.

Mae Dr Kevin Coates yn artist-eurof a cherflunydd aml-dalentog sy’n creu tlysau di-hafal mewn aur, meini gwerthfawr, cregyn, a deunyddiau egsotig eraill. Mae ei waith yn gain ac yn rhyfeddol. Yn dilyn arddangosfa unigol lwyddiannus ganddo yn y Wallace Collection yn Llundain yn 2011, mae Coates wedi bod yn gweithio ar brosiect newydd uchelgeisiol, A Bestiary of Jewels, gan baru creadur gyda’i gymar dynol, gyda’r em wedi ei gosod ar ‘dudalen’ bwystawr, mewn ymhelaethiad barddonol ar thema’r gwyddoniaduron canoloesol adwaenir fel Bwystoriau.

Cynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag Amgueddfa’r Ashmolean

CYHOEDDIADAU Kevin Coates A Bestiary of Jewels

Cynhyrchwyd y cyhoeddiad hardd hwn yn arbennig ar gyfer prosiect newydd uchelgeisiol Dr Kevin Coates, ‘A Bestiary of Jewels’ – gan baru creadur gyda’i gymar dynol, gyda’r em wedi ei gosod ar ‘dudalen’ bwystawr, mewn ymhelaethiad barddonol ar thema’r gwyddoniaduron canoloesol adwaenir fel Bwystoriau. Mae Kevin Coates yn artist-eurof aml-dalentog a cherflunydd sy’n creu tlysau di-hafal mewn aur, meini gwerthfawr, cregyn a deunyddiau egsotig eraill. Mae Canolfan Grefft Rhuthun hefyd yn gwerthu ‘A Notebook of pins’ gan Kevin Coates.

104 tudalen
Clawr caled
Lliw llawn
240x320mm
ISBN 978-1-905865-63-5
Iaith: Saesneg

I archebu ffoniwch: 01824 704774
E: thegallery@rccentre.org.uk

£18.00