Stiwdio 2
Andrew Logan – cornucopia
Schools ProjectDrwy gydol tymor y gwanwyn fe wahoddwyd ysgolion cynradd lleol yn Sir Ddinbych i ddod i fforio byd hudol arddangosfa Andrew Logan yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, ac yna weithdai ymarferol gydag artistiaid lleol Ceri Wright, Jude Wood a Ben Davis.
Wedi’u hysbrydoli gan chwedlau mytholegol, anturiaethau a chreadigrwydd coegwych Logan, fe greoedd y disgyblion, gyda’r artist Ceri, ddarnau llachar, lliwgar ac anghyffredin o emwaith mosaig gan ddefnyddio gwydr, acrylig ac eitemau wedi’u hailgylchu yn ogystal â chreu darnau mosaig ar raddfa fawr yn arddull Logan.
Gyda’r artistiaid Ben a Jude fe gydweithiodd y disgyblion i greu cymeriadau mytholegol o wir faint wedi’u hysbrydoli gan ffigwr graddfa fawr Logan o’r Dduwies ‘Rajas Zandra’ yn yr arddangosfa. Mae’r ffurfiau ffrâm helyg wedi’u gorchuddio â phapur sidan lliw, fel haen sail, ac wedi’u haddurno ag amrywiaeth eang o ddefnyddiau addurniadol. Yr 11 ysgol a fu’n cymryd rhan oedd:
Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Betws Gwerfil Goch, Ysgol Llanfair D.C, Ysgol Pant Pastynog, Ysgol Pen Barras, Ysgol Bro Elwern yn gweithio â’r artist Ceri Wright.
Ysgol y Borthyn, Ysgol Bro Famau, Ysgol Bryn Clwyd, Ysgol Llanbedr D.C, Ysgol Stryd y Rhos yn gweithio â’r artistiaid Jude Wood a Ben Davis.
Fe ymgysylltodd y prosiect â 231 o ddisgyblion i gyd.
Dymuna Canolfan Grefft Rhuthun ddiolch i’r holl ddisgyblion ysgol, y cynorthwywyr a’r artistiaid am rannu eu hantur artistig â ni ac am greu’r ‘Cornucopia’ yn arddull Andrew Logan.
Gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau!