Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Cewch eich ysbrydoli! Cyfranogwch!

Beth yw Crefft? Pwrpas

O Medi

Yr hydref hwn rydyn ni’n lansio ein pedwerydd tymor a’n tymor olaf, Pwrpas.

Yn rhan o’n tymor Pwrpas byddwn yn archwilio tarddiad rhai gwrthrychau pob dydd, gan ganolbwyntio ar y ffordd y mae’r gwahanol ddibenion y maen nhw wedi’u defnyddio ar eu cyfer wedi dylanwadu ar y dyluniad a’r defnyddiau.

Mae’r rhan fwyaf o grefftau wedi esblygu o angen iwtilitaraidd i greu gwrthrych ymarferol – rhywbeth sy’n ‘gwneud y gwaith’. Daeth cyffyrddiadau personol ac addurniad artistig yn ddiweddarach ond swyddogaeth oedd yn gorchymyn sut y byddid yn gwneud y gwrthrych, pa ffurf fyddai iddo ac o ba ddefnyddiau y byddai’n cael ei wneud o. Ystyriwch debot, er enghraifft: mae’n rhaid iddo fod â phig i dywallt yn effeithlon a handlen gwrth-wres i afael ynddi. Dylai fod yn ddigon mawr i gynnwys digon o hylif, ond nid yn rhy drwm i’w godi’n ddiogel ac, wrth gwrs, dylai ddal dwˆr! Heb gyflawni’r meini prawf hyn, mae’r pot yn ddiwerth, waeth pa mor brydferth ei wneuthuriad fel gwrthrych.

Mae’r pecan ‘Pwrpas’ adnoddau llawn lawrlwytho AM DDIM yma

Lawrlwythwch y pecyn adnoddau ‘Proses’  yma

Lawrlwythwch y pecyn adnoddau ‘Addurn’  yma

Lawrlwythwch y pecyn adnoddau ‘Deunydd’  yma

Ariannwyd y Tymor a’r prosiect hwn gan Sefydliad Paul Hamlyn.

Screen Shot 2015-09-21 at 15.58.23

CYHOEDDIADAU Beth yw Crefft? Pwrpas

Pecyn adnodd

Mae’r Pecyn Adnoddau Pwrpas Beth yw Crefft? yn llawn o dasgau a gwybodaeth ac ar gael i’w brynu o Ganolfan Grefft Rhuthun.

32 pages, tudalen, Lliw llawn, 210x297mm
ISBN: 978-1-905865-84-0
Iaith: Saesneg neu Gymraeg
I archebu ffoniwch: 01824 704774. E:thegallery@rccentre.org.uk

£3.00