Oriel 3
Casgliad Cymreig II
Adam Buick, Claire Curneen, Lowri Davies, David Frith, Margaret Frith, Anne Gibbs, Julia Griffiths Jones, Ashraf Hanna, Louise Hibbert, Catrin Howell, Walter Keeler, Jin Eui Kim, Claudia Lis, Anna Noël, Paul Preston, Matt Sherratt, Audrey Walker
Yn syth o fod yn dangos yn COLLECT 2015 – prif ffair gelfyddydau ryngwladol gwrthrychau cyfoes yn Oriel Saatchi yn Llundain – mae detholiad Canolfan Grefft Rhuthun eleni’n cynrychioli gwaith 17 o grefftwyr blaenllaw Cymru mewn serameg, tecstilau metel a phren. Mae’n dychwelyd i Ogledd Cymru i roi cyfle i gynulleidfaoedd yma weld y gwaith a ddangoswyd. Mae’r darnau i gyd ar werth, ac yn rhoi cyfle i fuddsoddi mewn gwaith gwneuthurwyr Cymreig cyfoes mawr: llawer ohonynt wedi’u cynrychioli mewn casgliadau amgueddfeydd arwyddocaol ledled y Deyrnas Unedig.