Stiwdio 3
Codi’r Bar
Codi’r Bar 2014 / 15 arddangosfa diwedd blwyddyn.
Agor drysau ar brofiadau newydd mewn celfyddyd gymhwysol, crefft a dylunio.
Rhaglen ydi Codi’r Bar a sefydlwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun ar gyfer myfyrwyr UG a lefel A sy’n fwy abl a thalentog yn Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i’r rheiny sy’n dangos rhagoriaeth artistig i allu cael mynediad at ymarfer artistig lefel uchel; hyrwyddo ymgysylltiad ag ymarferwyr cyfoes a mynediad at dechnegau arbenigol sy’n ychwanegol at y rheiny sydd ar gael mewn ysgolion.
Ariannwyd y rhaglen gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Canolfan Grefft Rhuthun ac Ysgol Gelf Manceinion.