Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

‘crebwyll’ y pwyth

16 Gorffennaf – 25 Medi 2016

Eleanor Edwardes, Louise Gardiner, Caren Garfen, Cindy Hickok, Rachael Howard, Karen Nicol, Lynn Setterington, Susie Vickery

Mae ‘crebwyll’ y pwyth yn dangos gwaith wyth gwneuthurwr sy’n cyfuno defnydd medrus o bwyth â chraffter canfyddiad. Bydd rhai’n chwarae â threftadaeth crefft nodwydd, eraill yn archwilio potensial mynegiannol pwythau i greu arsylwadau coeglyd a dadlennol ar fywyd cyfoes. Bydd pob un yn ceisio annog meddyliau yn ogystal â gwenau mewn ymateb.

‘Byddaf yn “paentio” bob dydd ag edau yn gyfrwng i mi, y nodwydd yn frwsh paent i mi, y peiriant gwnïo’n estyniad o fraich. Gyda throed ar y pedal a thafod yn y boch, rwy’n creu gweithiau sy’n bodloni fy nyhead i fynegi bywyd fel y mae’n ymddangos i mi.’ – Cindy Hickok

Curadwyd gan June Hill