Oriel 1
Cysgodion a Goleuni
Caiff goleuni, cysgod a gwead eu hamlygu yn y cyflwyniad hwn, unlliw yn bennaf, o waith chwe gwneuthurwr yn byw yng Nghymru sy’n ein harwain ni i astudio a gwerthfawrogi newidiadau cynnil mewn ansawdd arwyneb. Yn gweithio gyda serameg, gwydr, tecstilau, arian a charreg, mae pob gwneuthurwr yn ystyried goleuni a sut y gall greu effeithiau ac animeiddio eu gwaith.
John Neilson torri llythrennau, Rhian Hâf gwydr
Ainsley Hillard tecstilau, Jin Eui Kim serameg
Rauni Higson arian, Matt Sherratt serameg