Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

David Frith, Margaret Frith

Hanner can mlynedd o Grochenwaith Brwcws 27 Gorffennaf – 8 Medi 2013

Mae David a Margaret wedi bod yn gwneud potiau hardd gyda’i gilydd am hanner can mlynedd: dau o’r ychydig artistiaid serameg sydd wedi treulio eu bywydau yn ennill bywoliaeth o wneud potiau. Wrth wraidd y bartneriaeth unigryw mae gwaith caled ac ymrwymiad. Mae eu potiau yn gwbl gyfoes ond yn mynegi etifeddiaeth amryw o draddodiadau. Wedi meistrioli’r ffurf wrth daflu a thanio gwydreddau gostyngol hardd aethant ati i ddatblygu addurno gwrthgwyr i hwyluso haenu gwydreddau gyda motiffiau wedi’u paentio a slipiau llusg i roi dyfnder a chyseiniant i addurniad arwyneb sy’n ymddangos yn ddiymdrech. Gyda’u potiau’n cydweddu mewn naws, ffurf a phriodoldeb i’r gofod cartref, mae’r ddau artist seramig yn gweithio mewn dimensiynau gwahanol. Mae Margaret yn cynhyrchu ffurfiau cain mewn porslen gyda motiffiau wedi’u paentio neu eu cerfio gyda David yn gweithio ar raddfa fwy mewn crochenwaith caled taniad uchel. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu eu holl waith hyd yn hyn.