Oriel 3
David Frith & Margaret Frith – Serameg
Mae rhedeg Crochendy am 55 o flynyddoedd yn dipyn o gamp ac mae David a Margaret yn ffenomena rhyfeddol; daw eu hirhoedledd o gyfuniad deinamig o ddawn a gwaith caled. Maent wedi arddangos dros y byd i gyd ac mae eu gwaith mewn llawer o brif gasgliadau. Mae dysgu cyrsiau o’u stiwdio yn Ninbych i fyfyrwyr serameg a chrochenyddion hamdden o bell i ffwrdd wedi dod â busnes mawr i Ogledd Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn dangos eu gwaith yn y flwyddyn y mae’r ddau’n dathlu eu penblwyddi’n 75 oed: mae eu brwdfrydedd am fywyd a chelfyddyd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.