Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

David Poston

6 Rhagfyr 2014 – 25 Ionawr 2015

Necklace for an Elephant and Other Stories:
the Working Lives of David Poston.

Mae’r arddangosfa hon yn olrhain bywyd Poston a’i orchestion, nid yn unig mewn gemwaith, ond hefyd ffotograffiaeth, peirianneg, dyfeisgarwch, dylunio proses a datblygiad rhyngwladol.

Yn anghonfensiynol drwy gydol ei yrfa, cynlluniodd gadwen i eliffant, tynnodd luniau bandiau fel The Rolling Stones mewn cyngherddau a datblygodd brosiectau hyfforddi i newid bywydau yn Affrica. Y llinyn cyswllt yw ei genhadaeth i ddeall problemau yn well ac i’w datrys, er mwyn gwella bywydau pobl.

Curadwyd gan Dr. Louise Taylor

CYHOEDDIADAU David Poston

Necklace for an Elephant and Other Stories:
The Working Lives of David Poston.

Cynhyrchwyd y cyhoeddiad hardd yma i gyd-ddigwydd â’r arddangosfa, Necklace for an Elephant and Other Stories: The Working Lives of David Poston. Mae’r cyhoeddiad yn archwilio bywyd a chyflawniadau Poston, nid dim ond mewn gemwaith, ond hefyd ffotograffiaeth, peirianneg, dyfeisio, dylunio prosesau a datblygu rhyngwladol.

72 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 220x297mm
ISBN: 978-1-905865-68-0
Language: Saesneg

I archebu rhowch ganiad ar: 01824 704774. E: thegallery@rccentre.org.uk

£15.00