Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Stiwdio 5

Dewch i weld ein Coedwig Hudol!

5 Rhagfyr – 3 Ionawr

Helpwch ni i greu tipyn o hud a nwyf y Nadolig y tymor hwn a dewch i roi cynnig ar wneud eich addurniadau eich hun! Y Nadolig hwn rydyn ni wedi trawsnewid Stiwdio 5 yn Goedwig Hudol gyda choed laser wedi’u dylunio gan Hannah Wardle (Drws y Coed). Mae wedi’i ysbrydoli gan waith gosodiad Malene Hartmann-Rasmussen yn arddangosfa, Oriel 1 heb sôn am ddyluniad stensil Rachel Kelly sydd wedi’i ddarlunio’n hardd ar y waliau. Fe’i cynhyrchwyd ganddi hi a’n hymwelwyr pan oedd yn artist preswyl yn rhan o’n cyfres Straeon Artistiaid ym mis Hydref.

Yn ein Coedwig Hudolus cewch greu eich addurniadau Nadolig eich hun i’w hongian ar eich coeden gartref neu beth am wneud addurniad ar gyfer ein coed ni’n gyfnewid am fathodyn Canolfan Grefft Rhuthun?

Gweithgaredd AM DDIM, ar agor yn ddyddiol. Mae’n rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gydag o