Oriel 2
Edefyn Tywyllach
Alana Tyson, Eleri Mills, Indre Eugenija Dunn, Jayne Pierson mewn cydweithrediad â Neale Howells, Laura Thomas, Llio James, Philippa Lawrence, Rhiannon Williams, Rozanne Hawksley, Ruth Harries, Sally-Ann Parker a Spike Dennis.
Mae Cymru â thraddodiad enwog o greu tecstilau defnyddiol ac addurniadol o ddyluniad neilltuol. O flancedi gwŷdd peiriannol i gwiltiau wedi’u pwytho â llaw, mae tecstilau’n rhan allweddol o ddiwylliant gweledol a hanes Cymreig.
Tra bo ‘Edefyn Tywyllach’ yn cymryd y dreftadaeth hon fel man cychwyn, mae deuddeg o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr cyfoes wedi’u gwahodd i arddangos gwaith sy’n gwyrdroi’r disgwyliadau hyn.
Curadwyd gan Laura Thomas
Arddangosfa Oriel Myrddin.