Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Gemwaith / Gwydr Gwisgadwy

25 Tachwedd 2017 – 27 Ionawr 2018

Chris Boland, Emmeline Hastings, Kate Haywood, James Maskrey, Dr. Joanne Mitchell, John Moore, Kaz Robertson, Dr. Ayako Tani, Christopher Thompson Royds, Angela Thwaites, Maud Traon, Heather Woof

Gemwaith: Nod Gwydr Gwisgadwy yw ail-gyflwyno cynulleidfaoedd ac artistiaid i botensial rhyfeddol gwydr fel deunydd gwisgadwy. Mae gemwaith gwydr â hanes sy’n mynd yn ôl i oes yr Hen Eifftwyr ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed defnyddiai’r artist enwog René Lalique wydr i wneud gemwaith.

Fe gyflwynir y ‘gwydr gwisgadwy’ newydd cyffrous hwn ochr-yn-ochr â gwaith mwy sefydledig y deuddeg artist gan ganiatau i’r gwyliwr gymharu gwaith yr artistiaid mewn gwydr a gemwaith a’r hyn fydd yn digwydd pan ddeuir â nhw at ei gilydd.

Curadwyd gan Julia Stephenson, Pennaeth y Celfyddydau yn y Ganolfan Wydr Genedlaethol.

Screen Shot 2017-11-09 at 14.36.10

 

CYHOEDDIADAU Gemwaith / Gwydr Gwisgadwy

Mae’r cyhoeddiad hwn sydd wedi’i gyflwyno’n hardd yn cyd-fynd â’r arddangosfa Gemwaith / Gwydr Gwisgadwy. Mae’n arddangos ‘gwydr gwisgadwy’ newydd cyffrous ac yn ail-gyflwyno cynulleidfaoedd ac artistiaid i botensial rhyfeddol gwydr fel deunydd gwisgadwy.

28 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 148x210mm
ISBN: 978-1-906832-29-2
Iaith: Saesneg
I archebu ffoniwch: 01824 704774. E: thegallery@rccentre.org.uk

£7.50