Oriel 2
Ingrid Murphy
Iaith Clai – Gweledig ac anweledig
‘Bydd Ingrid Murphy’n chwarae â chonfensiynau arfer serameg. Bydd ei gwaith yn gwahodd profiad a rennir yn hytrach na myfyrdod esthetaidd pur.’ Martina Margetts.
Mae cysylltedd yn hanfodol i Ingrid Murphy, rhwng pobl a lleoedd ac ar draws amser. Bydd ei harchwiliadau’n ein pryfocio a’n rhyfeddu wrth iddi uno prosesau serameg traddodiadol â thechnolegau creadigol. Boed hynny’n olygfa o du mewn i depot neu’r synau o strydoedd Jaipur, bydd ei darnau’n ein cysylltu â gwahanol bersbectifau a straeon. Mae Gweledig ac Anweledig yn ehangiad ffraeth o ieithoedd a phriodweddau clai. Ceri Jones, curadur y gyfres
Cyfres o arddangosfeydd teithiol cenedlaethol yr Iaith Clai wedi’u trefnu gan Oriel Mission mewn cydweithrediad â Chanolfan Grefft Rhuthun, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.