Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Jerwood Makers Open 2015

28 Tachwedd 2015 – 31 Ionawr 2016

Zachary Eastwood-Bloom, Malene Hartmann Rasmussen, Jasleen Kaur, Ian McIntyre & Silo Studio.

Mae’r Jerwood Makers Open yn hyrwyddo arwyddocâd gwneud a defnyddiau yn arena’r celfyddydau gweledol; gan geisio cefnogi dawn a dychymyg eithriadol wrth ehangu ffiniau’r hyn sydd wedi’i ddiffinio’n draddodiadol fel arfer celfyddydau cymhwysol.

Mae pumed rhifyn y Jerwood Makers Open yn cyflwyno gweithiau newydd arwyddocaol gan Zachary Eastwood-Bloom, Malene Hartmann Rasmussen, Jasleen Kaur, Ian McIntyre a Silo Studio. Mae eu gweithiau’n cwmpasu seramegau wedi’u gorffen â llaw, dulliau newydd o gastio, defnyddiau sydd heb eu harchwilio o’r blaen ac ymgorfforiad prosesau digidol.

Fe ddewiswyd y Gwneuthurwyr o gyflwyniad cenedlaethol o 267 o gynigion gan banel allanol yn cynnwys Isobel Dennis, Cyfarwyddwr New Designers; Grant Gibson, Golygydd y cylchgrawn Crafts; a Michael Marriott, dylunydd a churadur blaenllaw. Cafodd pob Gwneuthurwr wobr o £7,500 i wireddu prosiectau newydd uchelgeisiol, gyda’r canlyniad i gael eu dangos am y tro cyntaf yn y Jerwood Space cyn teithio’n genedlaethol.

Screen Shot 2015-11-03 at 16.19.47

 

 

delwedd: Malene Hartmann Rasmussen