Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Arddangosfa Oriel Werthu

Josie Seymour-Jones

16 Gorffennaf – 25 Medi 2016

Mae Josie Seymour-Jones yn seramegydd o Ogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn porslen i greu ystod o lestri peintwrus lled ymarferol â llaw. Gan dynnu ar y dirwedd cafodd ei gwaith ei ddylanwadu gan y gweadedd a’r lliwiau sydd i’w cael ar forlin gogledd-orllewin Cymru. Cymhwysir gwydredd a marciau tonaidd i arwyneb y clai, gan greu priodweddau addurniadol cynnil. Gan drin y porslen fel cynfas, fe haenir is-wydredd a’i dynnu i ffwrdd gan ddefnyddio chwythwr tywod i adeiladu dyfnder arwyneb gydag estheteg finimal a bwriadol. Ei nod yw pwysleisio natur fregus ond parhaol porslen drwy rolio’r slabiau clai mor denau ag sydd bosib gyda’r semau wedi’u gadael yn weladwy i amlygu’r broses o wneud a’r ansawdd o waith llaw.