Oriel 2
Laura Ellen Bacon
Laura Ellen Bacon, Llif
Gosodwaith ymdrochol haniaethol mewn helyg, ddyfeiswyd yn arbennig ar gyfer Canolfan Grefft Rhuthun.
Sefwch ynghanol y gwaith enfawr sy’n llifo ac ymchwyddo gyda ffurfiau chrychdonnog. Arogleuwch y deunydd naturiol; gwyliwch y cysgodion yn creu tonnau newydd ar y waliau. Mae’r deunydd yn llifo i mewn, yn llenwi’r gofod, gan ymateb i’r pensaernïaeth ac i lif yr ymwelwyr fel ei gilydd.
Gan ddefnyddio iaith benodol sy’n perthyn i sgil arbennig iawn i amlyncu’r oriel, mae Laura Ellen Bacon yn ymdrin ac ymgysylltu miloedd o goesau gwiail helyg, y clymau yn dal tensiwn y brigau, ond eu potensial i symud a sboncio o’u llea dal i fod yn anlwg. Caiff crynswth ei greu gan ystumiau lluosog ar radddfa dynol, strwythur pensaernïol newydd mewn deunydd naturiol.
Curadwyd gan Sara Roberts