Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Llythrennu : Celfyddyd a Rhith

19 Hydref 2019 – 12 Ionawr 2020

Llythreniad : Mae Celfyddyd a Rhith yn darlunio llythreniad a grëir â llaw drwy galigraffi, torri llythrennau, paentio ac engrafu. Mae ysgrifennu’n ffurf fwyaf hynafol ar gelfyddyd ac am filenia fe ystyrid celfyddyd y sgrifellwr ag edmygedd mawr. Byddai’r sgrifellwr proffesiynol mewn sgriptiau Arabeg,iaith Japan, Tibeteg a’r Aifft, yn ogystal â’r hyn y byddem ni’n awr yn ei ystyried yn ysgrifen orllewinol, yn cynnig sylfaeni ieithoedd ffurfiol fel yr ydym ni’n eu hadnabod heddiw; o bictogramau a hiroglyffigau i sgriptiau italig ac ysgythriad copr, wedi’u cyflawni mewn carreg, gwydr a metel a memrwn, felwm a phapur. Drwy waith yr artistiaid a’r gwneuthurwyr dewisol, gallwn astudio’r dulliau, hynafol yn eu tarddiadau, eto’n ddiamser wreiddiol yn eu mynegiant, wedi’u creu ag arddull a sensitifrwydd cyfoes.

Artistiaid Cyfranogol: Tanja Bolenz, Gary Breeze, Gareth Colgan, Patrick Davison, Peter Furlonger, Gaynor Goffe, Charles Gurrey, Susan Hufton, Ron King, Susie Leiper, Tashi Mannox, John Neilson, Timothy Noad, Mary Noble, Tom Perkins, Ieuan Rees, Thomas Sargeant, Louise Sorrell, Cathy Stables, Graham Stewart, Philip Surey, Louise Tiplady, Edward Wates, Caroline Webb, Martin Wenham, Eleanor Winters, Rosalind Wyatt.

Curadwyd gan Gregory Parsons