Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Liz Ellis …o le tywyll

24 Gorffennaf – 18 Medi 2021

Mae o le tywyll yn mynd â chi o gors ddwfn ddu i ryddid ehediad. Caiff edafeddion naratif sy’n cwmpasu chwedlau Groegaidd; cyrff o’r Oes Haearn; clystyrau sêr; archeoleg; straeon gwerin Prydeinig; nofelau cyfoes; barddoniaeth; natur; cadwraeth a newid hinsawdd eu cydblethu trwy le, amser a ffurf, gan gysylltu nid yn unig y gorffennol a’r dyfodol ond hefyd y gwneuthurwr a bywyd. Wrth dyfu i fyny yn Swydd Gaer tir chwarae plentyndod Liz Ellis oedd Lindow Moss, tomen gorsiog enfawr oedd yn dir comin ers yr Oesoedd Canol gydag enw’r lle ‘llyn du’ s’yn tarddu o’r Gymraeg.

Yn gwylio trosodd mae llu o adar. Yn brysur, barablus ac yn llawn bywyd maent yn bodoli yn eu bydoedd eu hunain ond hefyd yn rhan bwysig o’n bodolaeth ni yn cynrychioli’r bywiol ac yn symbolau o obaith a chryfder. Mewn mytholeg Celtaidd mae adar yn gymedrolwyr rhwng y dwyfol a’r meidrol, yn dod yn warchodwyr ysbrydol neu’n gynghreiriaid a chynorthwywyr. Yn y Mabinogion gall bodau dynol ac anifeiliaid drawsnewid yn greaduriaid pluog sy’n hedfan, tra i R S Thomas yn ei gerdd The Ancients of the World, nid oes unrhyw beth mor hen â “thylluan Cwm Cowlyd”.

Nid oes gan y pïod sy’n tyrchu trysor, y mulfrain gwyliadwrus, y brain crawciog, y jac-dos sy’n hel clecs na’r tulluanod doeth, gwyliadwrus unrhyw ffiniau na therfynau. Mae’r cyffredin a’r anghyffredin yn cydfodoli’n hapus yma, wedi’u saernïo’n gywrain ond yn cael rhyddid i symud o le tywyll i olau ac i fywyd.

Nia Roberts