Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Manylion Mewnol

8 Chwefror – 6 Ebrill 2014

Justine Allison / Daniel Boyle / Chichi Cavalcanti / Suzanne Hodgson / Alison Morton / Ann Nazareth / Eleanor Pritchard  / RAMP Ceramics / Angus Ross / Helaina Sharpley / Nic Webb

Mae Manylion Mewnol yn cyflwyno casgliad o grefftwaith cyfoes ar gyfer y cartref – dodrefn, serameg, tecstilau, pren a metel – gan rai o wneuthruwyr mwayf talentog heddiw. Mae’n rhoi cyfle i werthfawrogi nodweddion mwyaf cain gwrthrychau – yr un peth arbennig yna – y bachyn crogi annatod, y colfach neu’r cload perffaith, gorffeniad sy’n eich denu i gyffwrdd, y ddolen sy’n gwahodd ei gafael….

Curadwyd gan Gregory Parsons