Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Pamela Rawnsley

7 Chwefror – 12 Ebrill 2015

1952 – 2014

Roedd tirwedd yn obsesiwn cyson ym mywyd Pamela Rawnsley ac yn ei gwaith. Roedd fforio’n allweddol yn ei chynnydd; drwy drin deunydd, drwy brint ac arlunio fe wthiodd ffiniau. Mae yna barch rhyngwladol i waith Pamela ac mae mewn llawer o gasgliadau preifat a chyhoeddus yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cwmni Goldsmiths, Amgueddfa’r V&A, Oriel Gelfyddyd Aberdeen, Amgueddfa Genedlaethol Ulster. Fel y nododd Cyngor Celfyddydau Cymru, ‘Yn of arian ac artist blaenllaw, gyda’ i marwolaeth… fe amddifadodd Cymru o un o’i gwneuthurwyr gwychaf yn y cyfnod diweddar.’ Mae ei gwaith newydd, a ddechreuwyd yn ystod preswyliad Awstralaidd ei Llysgennad Cymru Greadigol, yn eithriadol.

CYHOEDDIADAU 1952–2014 Pamela Rawnsley

Mae’r cyhoeddiad hwn yn ddathliad o waith bywyd y gof arian Pamela Rawnsley. O’i darnau gemwaith cynnar drwodd i’w ‘Vessel Sequences’ enwog a gwaith diweddarach o dlysau a cholagraffau a ysbrydolwyd gan ei phreswyliad yn Awstralia yn 2012. Mae ei chyfraniad i ofannu arian cyfoes yn sylweddol.

Daw’r cyhoeddiad hwn ag ychwanegyn o 14 tudalen: adleisiau, gan ffrindiau, gwneuthurwyr, artistiaid a chasglwyr, casgliad teimladwy o deyrngedau i Pamela ac atgofion.

48 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 230x220mm
ISBN: 978-1-905865-70-3
Iaith: Saesneg neu Gymraeg
I archebu ffoniwch: 01824 704774. E: thegallery@rccentre.org.uk

£15.00