Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Pauline Burbidge

23 Ebrill – 10 Gorffennaf

Quiltscapes & Quiltline.

Ysbryd Lle yw hanfod gwaith Pauline Burbidge. Mae bod ‘mor llonydd â nodwydd’ ac amsugno’r amgylchedd naturiol wedi bod yn ddiddordeb cyson. Ers symud ei chartref a’i stiwdio i’r Alban wledig yn 1993, mae’r ymgysylltiad â’r tir sydd o’i chwmpas wedi dod yn leitmotif cynyddol i’r rhan fwyaf o’i harfer.

Ys dywed Pauline, ysbrydoliaeth yw ‘mannau tawel yn y dirwedd a dim ond eu hamsugno… yr un teimlad o dawelwch fydd gen i pan fydda i’n pwytho… wedi ymgolli yn y gwaith… mae pwytho’n eithaf tebyg i fyfyrdod… mae ei symlrwydd yn rhoi canolbwynt i mi.’

Mae Quiltscapes & Quiltline, yn dathlu gwaith newydd Pauline Burbidge, a ddangoswyd yn gyntaf yn Amgueddfa Bowes ac yn awr yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Arddangosfa deithiol yw hon mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Bowes.

Screen Shot 2016-01-29 at 16.36.02

CYHOEDDIADAU Pauline Burbidge

Quiltscapes & Quiltline

Mae’r cyhoeddiad syfrdanol Quiltscapes & Quiltline, yn arddangos gwaith newydd Pauline Burbidge, ddangoswyd gyntaf yn Amgueddfa Bowes ac yn awr yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

32 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 220x210mm
ISBN: 978-1-905865-76-5
Iaith: Saesneg
I archebu ffoniwch: 01824 704774. E: thegallery@rccentre.org.uk

£12.00