10fed Pen-blwydd
Penwythnos Dathlu!
Perfformiadau: 5.30pm a 7.30pm
Dewch i ymuno â’r Artist Perfformiad Megan Broadmeadow and Co am ‘Basiant Rhyngblanedol’ wrth i ni ddathlu 10fed pen-blwydd Canolfan Grefft Rhuthun yn null Andrew Logan!
Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Gadewch i’r rhwysg, y rhodres a’r defodau ddechrau!
Mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi’i dewis o’r Llwybr Llaethog i lywyddu’r Coroni rhyngalaethog – ond beth yw hyn a glywch chi…. Mae yna fwy nag un Brenin neu Frenhines?! Ac maen nhw â 3 bys yr un?!
Ydi, mae hynny’n wir – mae’r Seremoni hon yn fewnwelediad prin i draddodiadau’r blaned Logan. Ac mae 3 o Loganiaid wedi teithio am 50,000,000 o filltiroedd i ddod i’r ddaear ar gyfer y diwrnod mawr.
Gyda phropiau cawraidd, gwisgoedd ac arferion anghonfensiynol, bydd y seremoni’n sicr yn synnu, a gallai bryfocio pwyntio bysedd yn anghymeradwy! Fe anogir cyfranogiad y gynulleidfa’n sicr – rhowch eich dillad gorau amdanoch! Fyddech chi ddim am fethu’r diwrnod mawr!
AM DDIM Yn addas ar gyfer pob oed. Mae’n rhaid i bob plentyn fod gydag oedolyn.