Gofodau Prosiect Cwrt A a B
Seán Vicary
Animistic Topographies
Mae prosiect ymchwil parhaus Seán Vicary, Animistic Topographies yn defnyddio animeiddiad i archwilio amlygiadau ‘cyfoes’ o Genii Loci.
Mae’n ymchwilio pa ffurf fyddai i’r ‘Eneidiau Lle’ hyn a sut y gallent gwestiynu ein safbwynt ‘dynol-sentrig’ ni.
Mae ei waith diweddar, a gynhyrchwyd ar y cyd â phrosiect yr Atlas Llenyddol, yn ymateb i nofel gwlt Alan Garner The Owl Service.
Mae Seán yn archwilio syniad y nofel o ddyffryn uchaf afon Dyfi fel ‘cronfa ddwˆr’ lawn ar gyfer grymoedd anweledig a hefyd, o ganlyniad, yn yrrwr i broses greadigol Garner ei hun; trochi’r hunan mewn tirwedd/lle sy’n darparu dyfrbibell a’r weithred o greu a sianelu’r grymoedd hynny.
Dros gyfnod o flwyddyn mae Seán wedi gweithio ar leoliad yn Llanymawddwy yn ffilmio, casglu ac animeiddio gwrthrychau o’r cwm; yn cynnwys rhawn a phlastr leim, hoelion wedi’u gwneud â llaw a photel gwrach. Gyda’i gilydd bydd y rhain yn creu ‘derbynnydd’ i diwnio i mewn i donfeddi gweddillol a dadgodio unrhyw drosglwyddiadau cyniweiriol.
Seán yw derbynnydd Gwobr Cymru Greadigol 2017 gan Gyngor Celfyddydau Cymru.