Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 1

Simon Carroll

7 Chwefror – 12 Ebrill 2015

Crochenydd Mynegiadol.

‘Roedd Simon Carroll, artist a oedd â hoen ac egni anarferol, yn wneuthurwr paentiadau, printiau a lluniau o draethau, ond fel crochenydd yr oedd yn fwyaf toreithiog, ac am ei serameg mynegiadol digyfaddawd y mae’n fwyaf enwog. Gyda marwolaeth Simon Carroll yn 2009 fe fyrhawyd bywyd artist hynod o alluoedd anarferol. Artist a ganfu mewn clai ffurf mynegiant personol angerddol dwys. Artist yr oedd ei waith, tra’n ymddangosiadol yn dilyn traddodiad sefydledig, yn waith ef ei hun yn gyfan gwbl.’

Alun Graves, Uwch Guradur, Serameg
a Gwydr, Amgueddfa Victoria ac Albert.

Simon Carroll: Cynhyrchir Crochenydd Mynegiadol mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Victoria ac Albert a’r curadur yw Alun Graves.

Screen Shot 2015-01-21 at 17.05.50

CYHOEDDIADAU Simon Carroll Expressionist Potter

Mae’r cyhoeddiad trawiadol o 32 o dudalennau’n cyd-fynd â’r arddangosfa hon. Wedi’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Victoria and Albert, mae Simon Carroll, Crochenydd Mynegiadol yn cipio grym ac egni’r artist enwog yma.

32 tudalen, Clawr caled
Lliw llawn, 220x210mm
ISBN: 978-1-905865-69-7
Iaith: Saesneg
I archebu ffoniwch: 01824 704774. E: thegallery@rcccentre.org.uk

£10.00

Screen Shot 2015-01-21 at 17.05.50