Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Terry Bell-Hughes

29 Ebrill – 16 Gorffennaf 2017

Ganwyd Terry Bell-Hughes yn Abergele ac mae â gradd cwrs arloesol ‘Harrow Ceramics’, lle cafodd ei ddysgu gan Victor Margie a Mick Casson. O ddychwelyd i Ogledd Cymru yn 1978 fe sefydlodd stiwdio â’i wraig Bev Bell- Hughes yng Nghyffordd Llandudno. Ac yntau’n un o seramegwyr enwocaf Cymru mae ei waith mewn llawer o gasgliadau pwysig, yn cynnwys Amgueddfa Cymru, y Royal Museum of Scotland, yr Ulster Museum a’r Cyngor Crefftau yn Llundain. Ar gyfer yr arddangosfa hon mae Terry wedi cynhyrchu corff cyffrous o waith newydd.