Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Oriel 3

Claire Curneen

12 Ebrill – 20 Gorffennaf 2014

Claire Curneen, To this I put my name.

Corff newydd o waith gan y seramegydd o fri rhyngwladol, Claire Curneen, sy’n ganlyniad i Wobr Llysgennad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Treuliodd Curneen amser yn ymchwilio’r casgliad helaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn gyda’r curadur Audrey Whitty, gan ddychwelyd i Gymru i ddatblygu ei chanfyddiadau fel artist preswyl yn Oriel Mission. “Artist o weledigaeth a naratif sydd â’i gwaith yn cynnig i ni, ymhlith llawer o bethau eraill, byd yn llawn storïau a’u gofidiau eu hunain.” Teleri Lloyd Jones, Golygydd Cynorthwyol yn Crafts Magazine.

Mae To this I put my name yn Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun ac Oriel Mission

 

CYHOEDDIADAU Claire Curneen To this I put my name

Mae’r cyhoeddiad trawiadol hwn yn cofnodi ‘To this I put my name’, corff newydd o waith gan Claire Curneen sy’n ganlyniad i Wobr Llysgennad Cymru Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. “Mae hi’n artist o weledigaeth a naratif gyda’i gwaith yn cynnig i ni, ymhlith llawer o bethau eraill, byd sy’n llawn streaon a’u gofidiau eu hunain.” Teleri Lloyd Jones, Golygydd Cynorthwyol Crafts Magazine. Mae Canolfan Grefft Rhuthun hefyd yn gwerthu ‘Succour’ gan Claire Curneen.

48 tudalen
Clawr caled
Lliw llawn
200x270mm
ISBN 978-1-905865-64-2
Iaith: Saesneg neu Gymraeg

I archebu ffoniwch: 01824 704774
E: thegallery@rccentre.org.uk

£12.00