Oriel 3
Ffenestri ar Gymru
Ffenestri ar Gymru: Ymateb chwe gwneuthurwr cyfoes i Cambria Depicta Edward Pugh
Ffenestri ar Gymru – Roddodd Cambria Depicta Edward Pugh gipolwg personol iawn ar Gymru ar ddechrau’r 19fed Ganrif. 200 mlynedd yn ddiweddarach rydym yn diweddaru hyn gyda chyfres o Ffenestri ar Gymru yn y 21fed Ganrif gan artistiaid benywaidd cyfoes, a thrwy fywgraffiad gwych John Barrell ac ail-argraffiad Gwasg Prifysgol Caergrawnt o’r Cambria Depicta, rydym yn dathlu athrylith Edward Pugh a rhyfeddodau tro trwy Ogledd Cymru ….. mwynhewch y daith! Bydd pum ffenestr ganolog a wal Oriel 3 yn cynnwys gwaith gan chwe artist cymhwysol wnaed fel ymateb cyfoes i Cambria Depicta a’r golygfaon oedd Pugh yn eu dehongli.
Yr artistiaid yw:
Eleri Mills – Tecstilau a phrint
Christine Mills – Cyfryngau Cymysg
Julia Griffiths-Jones – Gwaith gwifrau
Lowri Davies – Serameg
Luned Rhys Parri – Mwydion papur
Becky Adams – Tecstilau a chelf llyfr