Gweithdai
Portffolio – bloc 2: Jennifer Barker, Brian Duffy
& Verity Pulford – Gwydr – AR GYFER Y RHAI 14–18 OED
13 & 14 Awst
11.00am – 4.00pm
Mae pob bloc 2-ddiwrnod yn £20 neu dewch i bob un o’r 3 bloc (6 gweithdy) am £50
Jennifer Barker & Brian Duffy Dydd – Llun 13 Awst
10.00am – Codi yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
11.00am – 4.00pm – Gweithdy ym Mhrifysgol Glyndŵr.
5.00pm – Cyrraedd yn ôl yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
Fe ddarperir cludiant o Ganolfan Grefft Rhuthun i Brifysgol Glyndŵr.
Mae Jennifer Barker yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gelf Prifysgol Glyndŵr ac yn arbenigo mewn gwydr. Mae’n fedrus yn gweithio gwydr gwaith odyn a chymwysiadau gwydr oer pensaernïol. Mae ganddi Fusnes Gwydr Pensaernïol llwyddiannus yng nghanol Dinas Lerpwl.
Mae Brian Duffy â BA ac MA yn y Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes ac fe dreuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn y diwydiant gwydr yn cynhyrchu comisiynau pensaernïol mawr ochr-yn-ochr â dysgu. Mae Brian â diddordeb brwd mewn dylunio gerddi gan greu cerfluniau llwyddiannus ar gyfer gerddi sioe’r RHS a Sioe Flodau Chelsea, Hampton Court a Sioe Flodau Tatton ymysg eraill.
Y gweithdy – Yn sesiwn gyntaf y gweithdy gwydr ym Mhrifysgol Glyndŵr bydd y myfyrwyr yn gallu creu set o ‘coasters’ gwydr gan ddefnyddio eu dyluniadau eu hunain. Fe ysgythrir y dyluniad ar wydr gan ddefnyddio’r dull sgwrio â thywod. Yn yr ail sesiwn byddwn yn arlunio ‘sgraffito’ ar wydr ffenestri ac eto’n defnyddio chwythu tywod i ysgythru’r delwedd i mewn i’r panel gwydr. Fe ychwanegir staen arian i greu elfennau tonyddol cyn i’r darnau gael eu tanio yn yr odyn wydr.
Verity Pulford Dydd – Mawrth 14 Awst
11.00am – 4.00pm yng Canolfan Grefft Rhuthun.
Mae Verity Pulford yn Artist Gwydr yng Ngogledd Cymru. Bydd yn creu darnau wal, llestri ymarferol, comisiynau celfyddyd bensaernïol a chyhoeddus gan ddefnyddio toddi, sgwrio â thywod, paentio â llaw ac ysgythru.
Y gweithdy – Yn y gweithdy hwn, yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, bydd myfyrwyr yn edrych ar waith Andrew Logan a’i ddefnydd o batrwm a bydd hynny’n yn arwain at edrych ar fandalâu, eu ffurfiau a’u hystyron. Bydd myfyrwyr yn dylunio ac yn gwneud mandalâu gwydr wedi’u paentio â llaw gan ddefnyddio paentiau lliw a ffrit. Yna fe eir â’r gwaith a grëwyd yn ôl i’w stiwdio a’i danio gan Verity.
I gael manylion ar sut i neilltuo eich lle ffoniwch 01824 704774.
WEDI DOD I BEN