Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
GWEITHDY

Gweithdy Dosbarth Meistr Undydd

â'r Gemydd Angela Evans 2 Tachwedd 10.30am – 3.30pm £70 n cynnwys cinio ysgafn a defnyddiau. Neilltuwch le ymlaen llaw, os gwelwch yn dda

Mae Angela Evans yn dylunio ac yn gwneud gemwaith fel rheol gan ddefnyddio weiren, a allai fod yn gopr, arian, aur neu blatinwm. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn archwilio cread ffurfiau gemwaith 3D gan ddefnyddio weirs arian meinion. Mae Angela’n gweithio o’i stiwdio yn Siop Iard, Caernarfon.

Yn dilyn preswyliad diweddar Cipolygon Angela Evans yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun, bydd Angela, yn dilyn galw poblogaidd, yn cynnal gweithdy gemwaith arall y mis Tachwedd hwn.

Yn ystod y gweithdy undydd byddwch yn creu set o gylchoedd stacio mewn arian. Byddwch yn dysgu sut i dorri metel gan ddefnyddio llif rwyllo, yn creu gwahanol weadeddau â stampiau a morthwylion a pheth sodro sylfaenol a llathru â llaw.

Gweithdy oedolion ar lefel dechreuwyr yw hwn.

I archebu eich lle ffoniwch 01824 704774

WEDI DOD I BEN