Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Digwyddiad

Bella May Leonard Digwyddiad

stiwdio agored ac arddangosiadau 28 Awst 10.30am – 4.30pm AM DDIM dim angen bwcio

Gan ddefnyddio pwythau brodwaith, dulliau lapio, clymu a gweu bydd Bella’n addurno siapiau torlun polyffelt ac yn eu llinynnu efo’i gilydd i greu effaith neclis. Fe fydd yna ddewis penodedig o liwiau, wedi’u hysbrydoli gan frodwaith tecstil Mecsicanaidd. Yna bydd y darnau hyn yn cael eu hatodi i addurno creaduriaid Mecsicanaidd mawr. Bob awr bydd Bella’n rhoi arddangosiad byr o’r gwahanol bwythau y bydd yn eu cymhwyso i’w darnau poliffelt ac yn esbonio’r broses wrth fynd ymlaen.

Yn addas i bob oed.

WEDI DOD I BEN