Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU

Ceri Rimmer: Perfformiwr / Gwneuthurwr Gwisgoedd & Henry Horrell: Cerddor

Treiddio’r Wyneb yng Nghanolfan Grefft Rhuthun 27 – 29 Mehefin

Mae’n ddrwg gennym, mae’r digwyddiad yma wedi pasio

Mae Ceri â chefndir o theatr ffisegol ac mae’n creu, dysgu a pherfformio cynyrchiadau dawns a syrcas. Mae Ceri â diddordeb mewn creu gwisgoedd afrad, cyfareddol o amrywiaeth o decstilau, sy’n gyflawn fel darn o gelfyddyd ar eu pen eu hunain, yn ogystal â chael eu defnyddio i greu cymeriadau theatrig cyffrous.

Mae Henry Horrell yn gerddor ac yn grëwr cerddoriaeth. Mae’n chwarae llawer o offerynnau ond mae hefyd yn ymhyfrydu mewn creu unrhyw beth sy’n gwneud swˆ n diddorol. Yn y 3 blynedd ddiwethaf mae wedi ymwneud fwy â chreu cerddoriaeth ar gyfer perfformiadau.

Yn ystod y preswyliad penwythnos bydd Ceri’n gwneud gwisg sydd wedi’i hysbrydoli gan Flodeuwedd, brenhines wedi ei gwneud o flodau’r goedwig, dim ond i’w throi’n dylluan pan fradychodd ei gŵr, Lleu. Ar ochr arall yr ystafell, bydd Henry yn eich cyflwyno i egwyddorion gwneud miwsig drwy archwilio defnyddiau a’r broses o wneud gan ddefnyddio deunydd ailgylchu a deunydd wedi’i gasglu a rhai teclynnau sylfaenol.

www.ceririmmer.com

 

28 Mehefin, 11.00am – 3.00pm
Cyfranogwch!
Mae Ceri a Henry yn eich gwahodd i ymuno â nhw i greu gwisgoedd a miwsig gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o fyd Mytholeg. Darperir defnyddiau ond byddai’n help mawr pe gallech chi ddod â sbwriel “cerddorol” fel tuniau mawr a blodau ar gyfer gwisg Blodeuwedd. Mae’r sesiynau galw heibio hyn yn addas i bob oed o 4 i fyny

29 Mehefin, 1.30pm – 2.30pm
Perfformiad
Gan ddechrau yng Nghanolfan Grefft Rhuthun bydd Henry’n arwain perfformiad ar hyd Helfa Gelf Rhuthun, yn rhan o Wyl Rhuthun, gweler www.ruthinarttrail.co.uk/ a  www.ruthinfestival.co.uk. Cewch weld yn bersonol sut mae Ceri’n ffeindio perfformiad o fewn gwisg a bydd Henry’n cyfansoddi symudiad, wrth i ddarnau o wisgoedd ac offerynnau gael eu darganfod ar hyd y llwybr. Gallwch ddewis i un ai wylio neu, os ydych chi wedi cymryd rhan yn y sesiynau galw heibio, gallwch gymryd rhan yn y perfformiad