Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Clwb Crefft

Clwb Crefft â’r artist Francesca Neal

31 Mai, 10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm Clwb Crefft – gellir bwcio lle ar gyfer plant 5–11 oed £5.00 y sesiwn

‘Trawsnewidiad Bob Dydd’ mewn perthynas â gwaith Justine Allison ac Angus Suttie.

Gydag ysbrydoliaeth gan y ddau seramegydd fydd yn cymryd llestr syml a thrwy ddefnyddio addurniad a phatrwm neu ffurfiau swrrealaidd a lliw, yn eu trawsnewid yn rhywbeth rhyfeddol.

Byddwn yn trawsnewid ein heitem gyffredin ein hunain yn rhywbeth cyffrous. Bydd pawb yn cael cwpan PAPUR cyffredin i’w drawsnewid; archwilio’r defnydd o batrwm, lliw, eitemau hapgael, gludwaith, teipograffeg a’u dychymyg!

Mae croeso i chi ddod â’ch defnyddiau hapgael eich hun e.e. comics, ffotograffau, sticeri, botymau, hen deganau.

Mae’n rhaid i blant fod gydag oedolyn.

WEDI DOD I BEN