Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Gweithdy

Dosbarth Meistr Deuddydd i Oedolion:

Portreadau Anifeiliaid Siart Achau â Susan O’Byrne 19 Awst a 20 Awst 10.30am – 4.00pm £100 cinio ysgafn yn gynwysedig. Ffoniwch i neilltuo lle

Yn ystod y gweithdy deuddydd yma, bydd Susan yn eich cyflwyno i’w dulliau gweithio nodedig mewn clai. Bydd y prosiect yn cynnwys modelu â phorslen-papur a bydd yn cyflwyno gwneud printiau â chlai lliwiedig, gludwaith â phorslen-papur, a chynhwysiad defnyddiau hapgael yn y gweithiau gorffenedig. Bydd pob myfyriwr yn creu portread cerfluniol o anifail.

Bydd pob cerflun yn cael ei danio a’i ddychwelyd i’r Ganolfan Grefft i chi ei gasglu i fynd ag o adref. 

WEDI DOD I BEN