Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Gweithdy

Dosbarthiadau Meistr i Oedolion: Janet Bolton

Gweithdy 2 ddiwrnod 13 & 14 Mai 10.30am – 4.30pm £120 yn cynnwys cinio ysgafn. Ffoniwch i neilltuo lle

Nod y gweithdy 2 ddiwrnod yma yw cyflwyno myfyrwyr i’r syniad o weithio’n uniongyrchol â’r ffabrigau a ddewiswyd i greu cyfansoddiadau, yn hytrach na gweithio o luniau dylunio. Mae’r dull hwn yn caniatáu rhyddid bendigedig, ac ar yr un pryd yn caniatáu cywirdeb bwriad llwyr. Drwy gydol y 2 ddiwrnod bydd Janet yn arddangos gan ddefnyddio enghreifftiau o waith sydd ar droed, y ffordd y gellir datblygu syniad. Bydd hefyd yn disgrifio ac yn dangos dulliau syml o wnïo â llaw sydd i’w defnyddio.

Yn addas ar gyfer lefel ganolradd.

WEDI DOD I BEN