Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Gweithdai Ar-lein

Portfolio: Gweithdy Digidol 1

Tachwedd – Rhagfyr 2020

WEDI’I ARCHEBU’N LLAWN

Gweithdy Digidol 1 

Gweithdy ar-lein gyda Mai Thomas 
Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa
Eleri Mills: Egni: Degawd o greadigrwydd

Bydd Mai yn eich annog i wylio a chwestiynu: Beth yw tirlun? Sut allwn ni gofnodi’n weledol, nid dim ond yr hyn y gallwn ei weld mewn gwahanol dirweddau, ond y ffordd y byddwn yn teimlo yngl?n â’r amgylchedd naturiol yn ein bywydau dyddiol. Bydd y 4 sesiwn ar-lein yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddulliau i’ch helpu i greu eich barn eich hun. Byddwch yn medi syniadau o baentiadau a lluniau Eleri Mills yn ei harddangosfa gyfredol ac yn eu defnyddio fel hadau ysbrydoliaeth i dyfu eich syniadau eich hun.

Bydd y 4 sesiwn ar-lein hyn yn caniatáu i chi ymchwilio ac archwilio gydag amrywiaeth o ddefnyddio a datblygu dulliau o arlunio, paentio a gludwaith. Bydd y rhain yn eich helpu i greu a ffurfio eich cyfansoddiadau eich hun.

1. Fframio golygfa
2. Ffabrig y tir
3. Golau a thywydd
4. Tir, hunaniaeth a bydoedd dychmygol
……………………

Bydd pob gweithdy digidol yn costio £12.50 (neu cofrestrwch ar gyfer pob un o’r 3 gweithdy am £30)

Cysylltwch â ni os bydd yna unrhyw anawsterau gyda thalu. Mae pob un o’n gweithdai a’n hadnoddau ar-lein wedi’u dylunio’n ofalus o fewn rheoliadau COVID-19 Llywodraeth Cymru ac fe ddarperir cyfarwyddiadau pellach a gwybodaeth am bob gweithdy unwaith y byddwch wedi gwneud eich bwciad â ni.

I gael gwybodaeth bellach ac I gael y manylion i neilltuo lle cysylltwch â Kate Jordan, Cydlynydd Portffolio drwy e-bost kate.portfolioruthin@gmail.com

Fe ariennir y rhaglen hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru –
Llwybr y Criw Celf