Mae’r Gweithdy Ymwybyddiaeth Ofalgar Digidol Ar-lein hwn a Sesiynau Symudiad Creadigol wedi eu dylunio’n arbennig i annog pobl i arafu; i gysylltu â CHREFFT a hwy eu hunain, ac i wella eu lles.
……………….
Sesiynau Symudiad Creadigol dan arweiniad y perfformiwr Jane Sutcliffe (wedi’u ffilmio ar forlin Môn)
Defnyddio morlin Môn yn gefndir a darnau serameg Beverley Bell-Hughes – organig eu ffurfiad fel ysbrydoliaeth i greu gwahanol symudiadau a siapiau â’n cyrff – yn ogystal â sawru trysorau’r môr drwy adlewyrchu ar ein profiadau ni ein hunain o’r llwybr arfordirol.
Fe gynigir y sesiynau symudiad creadigol mewn adrannau – Golyga hyn y gallwch ddechrau a stopio ar unrhyw adeg a gwneud y sesiynau wrth eich pwysau eich hun dros gyfnod o amser sy’n gyfleus i chi.
……………….
‘Adleisiau Llanwol’ Gweithdy dan arweiniad
yr artist Judith Wood
Bydd y gweithdy hwn â Judith yn eich cyflwyno i’r broses o wneud marciau ac yn dangos sut y gellir defnyddio arlunio gydag amrywiaeth o ddefnyddiau fel arf i ymlacio’r meddwl ac eto edrych ar arddangosfa Beverley Bell-Hughes Adleisiau Llanwol o ran creadigrwydd. I’n hail-gysylltu ac i ddeffro ein synhwyrau o fod wrth y môr, mae’r gweithdy hwn hefyd yn cynnwys ffilm fer gyda synau naturiol a delweddau o’r môr, i helpu i sefydlu’r olygfa a mynd â chi i le sy’n dawel ac yn llonydd o gyfforddusrwydd ein cartref ni’n hunain.
Byddwn yn eich darparu hefyd â chit defnyddiau sylfaenol a fydd yn cael ei bostio’n uniongyrchol i’ch cartref chi.
……………….
Cyfarfod Grŵp ‘Zoom’
Mae yna gyfle hefyd i ymuno â sesiwn ddilyn ymlaen â Judith Wood a Jane Sutcliffe drwy gyfarfod grŵp ‘Zoom’ unigryw ar-lein ar ddiwedd Ebrill. Fe anfonir gwybodaeth bellach yn cynnwys y dyddiad a’r amser unwaith y byddwch wedi bwcio.
……………….
Ymunwch â ni ar y daith 3 rhan yma. Neilltuwch eich lle yn awr am £18.00 (mae hyn hefyd yn cynnwys cost postio eich cit defnyddiau).
Ar gael ar gyfer mynediad o ddydd Mawrth, Ebrill 13, 2021.
Cyfranogwch a chael eich ysbrydoli i ymuno gartref!
……………….
Gwnewch eich bwciad ar-lein ar Eventbrite yma os gwelwch yn dda
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly ffoniwch ymlaen llaw i osgoi siom, os gwelwch yn dda.
Os hoffech chi wybodaeth bellach am ein rhaglen. Ymwybyddiaeth Ofalgar cysylltwch â Sioned Phillips, Swyddog Addysg ar e-bost sioned.phillips@denbighshireleisure.co.uk
Darperir y Gweithdy a’r Sesiwn Symudiad ar-lein drwy Vimeo. Mae Vimeo yn rhaglen syml a hawdd ei dilyn. Fe anfonwn ni ddolen atoch chi â chyfarwyddiadau pellach unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen.
Mae ein pedwerydd pecyn Tecawe’n dathlu’r ‘Gwanwyn’ ac mae wedi’i ysbrydoli gan rai o’n harddangosfeydd blaenorol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun:-
‘Fflora’ Yn dathlu byd blodau o fewn gwahanol gylchoedd Crefft. Gweler delweddau o’r arddangosfa yma
‘Pum Chwaer a Siart Achau’ Casgliad o greaduriaid serameg addurniadol wedi’u hysbrydoli gan aelodau teulu Susan O’Byrne ei hun. Gweler llyfr yr arddangosfa sydd i’w weld AM DDIM yma
Y Gwanwyn yw tymor dechreuadau newydd – egin ffres yn blodeuo, anifeiliaid yn deffro o’u gaeafgwsg hir, adar yn dechrau nythu, dodwy eu hwyau a chroesawu eu cywion bach i’r byd.
Mae ein pecyn Gwanwyn yn llawn o syniadau synhwyraidd a gweithgareddau creadigol i chi a’ch plentyn bach eu gwneud gyda’ch gilydd gartref. Mae’r gweithgareddau sydd yn y pecyn hwn yn cynnwys: Archwiliad o ddefnyddiau, gwneud marciau, didoli, stacio, canu, gwrando, adeiladu ond yn fwyaf pwysig chwarae a chael hwyl!
• Darganfod beth sydd y tu mewn i’r bocs wyau?
• Gwneud pethau allan o focsys wyau
• Gwneud nyth clyd
• Adar Egsotig
• Caneuon Adar
Lawrlwythwch eich copi o becyn gweithgaredd ‘Tecawe’ Gwanwyn Dwylo Bach yma
Cliciwch yma i weld Ffilm fer sy’n dangos i chi ‘Sut i’ fod yn greadigol a gwneud – ac wrth gwrs CAEL HWYL hefyd!
Cewch eich ysbrydoli gan natur drwy fynd allan, mynd am dro, ymgysylltu â’ch amgylchoedd naturiol, gweld beth allwch chi ei ffeindio – ac yna GWNEUD!
Sadwrn 17 Ebrill WEDI’U GWERTH I GYD
Sul 18 Ebrill WEDI’U GWERTH I GYD
Y gwanwyn hwn mae Canolfan Grefft Rhuthun yn cynnig gweithdy crefftau digidol y gallwch ei ddilyn yn rhwydd a’i wneud gartref, dan arweiniad un o’n gwneuthurwyr dawnus Anne Kelly. Mae ein gweithdy digidol wedi’i ddylunio i’ch cadw’n gysylltiedig â CHREFFT ac i ddarparu ysbrydoliaeth tra byddwn ni i gyd yn aros gartref.
Y gweithdy
Yn ystod y gweithdy ar-lein undydd hwn gydag Anne Kelly byddwch yn gweithio o’ch dewis chi o dŷ neu le (adeilad) sydd ag atgof arbennig i chi. Byddwn yn dechrau drwy ddefnyddio dulliau sylfaenol ond effeithiol wedi’u cymryd o’i llyfrau hi.
Fe wnaiff Anne ddangos i chi sut i greu gludwaith cyfryngau cymysg gan ddefnyddio eitemau o’ch casgliadau chi a rhai wedi’u ffeindio mewn siop elusen. Bydd eich darn chi’n cael ei addurno’n gyfoethog i greu swfenîr neu anrheg arbennig. Gellir ei ychwanegu at ddarn mwy yn ddiweddarach os dymunir hynny. Mae peiriannau gwnïo’n ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Mae’n ddefnyddiol i chi ddewis lliwiau sy’n siwtio eich tŷ/adeilad chi a delwedd o’ch tŷ/adeilad i weithio gydag o cyn y cwrs.
Cynhelir y gweithdy hwn drwy Zoom.
…………….
Rhestr Defnyddiau
Ni ddarperir defnyddiau â’r gweithdy hwn. Bydd angen i chi gael/brynu’r defnyddiau canlynol ar gyfer y gweithdy hwn.
Amrywiaeth o ffabrigau plaen a phrintiedig (darnau bach sy’n berthnasol i’r thema) Ffabrig plaen (cymysgedd cotwm neu galico), darnau bach – dim mwy na 40x40cm; Darnau rhuban neu les – botymau bach; Pritt/ffon lud; Pensil; Siswrn papur a phapur cetris dalen A4; Blociau printio (os dymunir); Paent acrylic neu baent ffabrig (dim ond ychydig) a darnau bychan o sbwng (os byddwch yn defnyddio blociau printio; Cit gwnïo ar gyfer pwytho â llaw; Siswrn ffabrig; Pinnau; Peiriant gwnïo a dewis o edau peiriant gwnïo
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer lefel dechreuwyr; ond, byddai rhai sgiliau gwnïo sylfaenol o fudd.
Am Anne Kelly
Mae Anne yn artist fuddugol, yn awdur ac yn diwtor a anwyd yng Nghanada ac sy’n byw yn y DU. Mae ei thecstilau aml-haenog sydd wedi’u pwytho’n drwchus wedi’u disgrifio fel ‘bydoedd bach’. Wedi’i hyfforddi yng Nghanada ac yng Ngholeg Goldsmiths yn Llundain, bydd yn creu crogluniau a gwrthrychau gan ddefnyddio cymysgedd o ludwaith cyfryngau cymysg a brodwaith wedi’i wneud â llaw a pheiriant. Bydd ei gwaith dysgu a’i gwaith oriel yn mynd â hi o gwmpas y Deyrnas Unedig a thramor.
annekellytextiles.com
…………….
Sut i fwcio ?
Gwnewch eich bwciad ar-lein ar Eventbrite yma os gwelwch yn dda
Fe gymerir bwciadau ar sail y cyntaf i’r felin. Fe anfonwn ni ddolen ZOOM atoch chi â rhai cyfarwyddiadau pellach unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y gweithdy. Os hoffech chi wybodaeth bellach cysylltwch â Sioned Phillips, Swyddog Addysg CGRh ar e-bost Sioned.Phillips@denbighshireleisure.co.uk
Mae ein trydydd ‘Tecawe’ o weithgareddau wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa ‘MONOCROM’ sydd ar ddod
Tra bo’r gweithgareddau hyn wedi’u dylunio ar gyfer chwarae a fforio â’ch ‘plant bach’ – byddwch yn onest,mae yna blentyn yn dal i fod ym mhob un ohonom ni – felly beth am edrych, beth bynnag fo’ch oed, a rhoi cynnig ar ddysgu llawen, wedi’i ddylunio ar gyfer artistiaid bach (a Mawr!!) i archwilio eu creadigrwydd mewnol, i fod yn chwilfrydig a GWNEUD! Peidiwch â gadael i’r rhai bach gael yr hwyl i gyd!
• Gwneud GEMWAITH – Archwilio siapiau a gweadedd
• Chwaraewch â CHYSGODION – golau a thywyll
• Bocs GOLAU
• Archwilio GWNEUD MARCIAU â golosg ar bapur
• Archwilio PAENT ar wrthrychau 3D mewn Monocrom
• ARGRAFFU ar ffurfiau 3D
Mae’r manylion i gyd i’w cael yn y canllaw ‘Tecawe’ yma
Edrychwch ar ein ffilm ‘sut i’ yma
Edrychwch ar ein ffilm ‘amser fi’ yma
Mae gweithgaredd arall ar gyfer y GWANWYN wedi’i greu ar ein cyfer ni gan Donna Jones, wedi’i ddylunio ar gyfer UNRHYW OED hefyd. Beth am roi cynnig ar greffta ‘Symudyn wedi’i ysbrydoli gan Natur’.
Mae’r holl wybodaeth fydd ei angen arnoch chi i’w gael yma
Neu edrychwch ar ein ffilm yma
Gallwch gasglu eich defnyddiau o ardd neu os byddwch allan ar eich tro ddyddiol, yn herio’r elfennau ar hyn o bryd, ac er eich bod efallai’n gorfod cerdded yn gyflym! – cofiwch hefyd gymryd ennyd i aros, anadlu’n ddwfn ac – ys dywed y bardd W H Davies, i ddim ond edrych ar bopeth sydd o’n cwmpas ni:-
Beth yw’r bywyd hwn os, yn llawn pryder
Nid oes gennym amser i sefyll a syllu
A pheidiwch ag anghofio edrych i fyny hefyd a chipio’r “Golau Gwanwyn” hwnnw a’r wybrennau glas bendigedig, pan ddôn nhw.
Dewch ag ychydig o olau i’ch cartrefi y Nadolig hwn â’n gweithdy ar-lein nesaf ‘Daliwr Golau’ wedi’i ysbrydoli gan lawer o’n harddangosfeydd blaenorol sy’n archwilio’r defnydd o olau mewn CREFFT.
Bob Crooks : gweler yma
Goleuo : gweler yma
Rhian Hâf : gweler yma
Daliwr Golau
Gweithdy digidol ar-lein ar gyfer oedolion (lefel Dechreuwyr). Y dylunydd a’r arddangosydd yw’r artist Jude Wood
Drwy ddilyn gweithdy Jude ar-lein byddwch yn creu daliwr golau gydag effaith gwydr lliw ar gyfer eich ffenestr gan ddefnyddio seiliau acrylic clir o wahanol siapiau a’u haddurno â finyl tryloyw wedi’i liwio. Bydd gennych yr opsiwn o greu rhywbeth ar gyfer yr ŵyl neu fynd am rywbeth an-Nadoligaidd i chi allu ei hongian gydol y flwyddyn. *
Byddwn yn eich darparu hefyd â chit defnyddiau sylfaenol a fydd yn cael ei bostio’n uniongyrchol i’ch cartref chi.
* Mae’r gweithdy wedi’i recordio ymlaen llaw sy’n golygu y gallwch ddechrau a stopio ar unrhyw adeg a gwneud y gweithdy yn ôl eich cyflymdra eich hun.
Neilltuwch eich lle yn awr am £15.00 (mae hyn hefyd yn cynnwys cost postio eich cit defnyddiau)
Ar gael ar gyfer mynediad o ddydd Mawrth, Rhagfyr 8, 2020
Cyfranogwch a chael eich ysbrydoli i ymuno gartref!
I neilltuo lle ffoniwch Ganolfan Grefft Rhuthun ar 01824 704774 yn ystod oriau agor dydd Mercher – dydd Sadwrn, 11am – 4pm
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly ffoniwch ymlaen llaw i osgoi siom, os gwelwch yn dda.
Os hoffech wybodaeth bellach am ein rhaglen ddysgu cysylltwch â Sioned Phillips, Swyddog Addysg ar e-bost sioned.phillips@denbighshireleisure.co.uk
Fe ddarperir y Gweithdy ar-lein drwy Vimeo. Mae Vimeo yn rhaglen syml a hawdd ei dilyn. Fe anfonwn ni ddolen atoch chi â chyfarwyddiadau pellach unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen.
Yr haf hwn cawsoch gynnig ein ryseitiau Cegin Grefft ar gyfer ‘Dwylo Bach’ a’r hydref hwn rydyn ni wedi dyfeisio ‘Tecawe’ newydd i roi cynnig arno gartref!
Pecyn o ‘gynwysyddion’ (defnyddiau) y gallwch eu casglu fel ‘Tecawe’ a’i wneud yn ddiogel gartref â’ch plentyn bach. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys rysáit crefft ar gyfer oedolion ‘Fy Amser i’.
‘Crefft Nadoligaidd’
Mae ein hail Decawe weithgareddau’n llawn o lawenydd y Nadolig wedi’i ysbrydoli gan waith y Gof Arian Yusuke Yamamoto. Fe sicrheir llawer o hwyl a chreadigrwydd disglair â’r pecyn hwn wrth i chi archwilio ac arbrofi â ffurfiau geometrig yn arddull Yusuke Yamamoto a dadorchuddio eich straeon hudolus chi eich hun mewn aur ac arian ar gyfer tymor yr Ŵyl.
Mae casgliad ein Pecyn ‘Crefft Nadoligaidd’ yn awr wedi cau. Peidiwch â phoeni, lawr lwythwch ein rysetiau Tecawe yma AM DDIM. Y cwbl sydd ei angen yw i chi ddim ond dod â’ch cynhwysion/defnyddiau eich hun.
I gael ysbrydoliaeth ychwanegol – edrychwch ar ein ffilm Chwarae Creadigol yma a’n Haddurniad Seren ar y Goeden: Rhywfaint o ffilm “Fy Amser I” yma Dangoswyd proses gam wrth gam gan Ticky a Donna.
Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac mae’n hawdd eu dilyn.
Cadwch lygad am ein thema ‘Tecawe’ nesaf. Yn dod yn fuan iawn.
Mae’r ‘ryseitiau’ hyn wedi’u dylunio gan yr artistiaid
Ticky Lowe a Donna Jones a’u
darlunio gan Rhi Moxon @TickyLowe @RhiMoxon
Yr haf hwn cawsoch gynnig ein ryseitiau Cegin Grefft ar gyfer Dwylo Bach a’r hydref hwn rydyn ni wedi dyfeisio ‘Tecawe’ newydd i roi cynnig arno gartref!
Pecyn o ‘gynwysyddion’ (defnyddiau) y gallwch eu casglu fel ‘Tecawe’ a’i wneud yn ddiogel gartref â’ch plentyn bach. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys rysáit crefft ar gyfer oedolion ‘Fy amser i’.
Tirlun
Mae ein pecyn Tecawe cyntaf â gweithgareddau sydd wedi’u hysbrydoli gan ein harddangosfa Egni gan Eleri Mills. Mae gwaith Eleri’n gysylltiedig â thirwedd ac fe’i mynegir drwy bwythau, paent a phensil – y cwbl yn ddefnyddiau creadigol ryfeddol ar gyfer artistiaid o unrhyw oed.
Mae casgliad ein Pecyn ‘Tecawe Tirlun’ yn awr wedi cau.
Peidiwch â phoeni, lawr lwythwch ein rysetiau Tecawe yma AM DDIM. Y cwbl sydd ei angen yw i chi ddim ond dod â’ch cynhwysion/defnyddiau eich hun. Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac maen nhw’n hawdd eu dilyn.
Cadwch lygad am ein thema ‘Tecawe’ nesaf. Yn dod yn fuan iawn.
Mae’r ‘ryseitiau’ hyn wedi’u dylunio gan yr artistiaid
Ticky Lowe a Donna Jones a’u
darlunio gan Rhi Moxon @TickyLowe @RhiMoxon
Gweld Arddangosfa Eleri Mills yn Rhithiol
Yn methu â gweld Arddangosfa Eleri? Dyma rith-daith o’i Harddangosfa Oriel 1 ynghyd â rhestr brisiau o weithiau sydd ar gael i’w prynu. Cysylltwch â’r oriel i gael manylion. Gweler yma
Mae dyfyniadau byr o Eleri yn yr oriel, yn siarad am ei gwaith, hefyd ar gael i’w gweld AM DDIM isod:
01 Ffyrdd o weithio:
Dull Eleri o bwythau, paent ac inc
02 Bardd yn y Dirwedd:
Trip i India a phreswyliad yng Nghastell Powis
03 Dyddiau Efrog Newydd:
preswyliad ac arddangosfa ym Mhrifysgol Columbia, Manhattan
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i ganslo
Ymunwch ag Eleri Mills i archwilio
Egni: degawd o greadigrwydd yn Orielau 1 & 2
Dydd Iau 10 Rhagfyr
1.00 – 1.45pm
3.00 – 3.45pm
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 14 y sesiwn i sicrhau pellter cymdeithasol a chyda mesurau diogelwch llawn.
Mae teithiau’r oriel AM DDIM. Bwciwch eich lle(oedd) yma
Mae ein 4ydd rysáit a’r olaf ar gyfer ein llyfr coginio wedi’i ysbrydoli gan “Llwyau” a nodweddwyd mewn llawer o’n harddangosfeydd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun dros y blynyddoedd; gwrthrychau wedi’u saernïo’n hardd ond sy’n ymarferol hefyd!
Fe gawson nhw eu nodweddu mewn rhai o’n harddangosfeydd blaenorol hefyd ‘Aelwyd’ a ‘Forge’ gyda llwyau wedi’u saernïo’n hardd gan wneuthurwyr fel Claire Cawte, Justine Allison, Micki Schloessink a Nils Hint.
Lawrlwythwch ein canllaw sut i ‘ Pobi Chwarae’ yma
Mae’r ryseitiau hyn wedi’u cynllunio gan Ticky Lowe a’u darlunio gan Rhi Moxon @TickyLowe @RhiMoxon
Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac mae’n hawdd eu dilyn. Beth am roi cynnig arnyn nhw?
Yn rhan o’n prosiect newydd ‘Cegin Grefft’ rydyn ni’n hynod falch o rannu ein trydedd rysait â chi sef ‘Cegin Sebon’ – wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Simon Carroll yn 2015 – ‘Crochenydd Mynegiadol’
Gallwch weld yr arddangosfa yma
Byddai Simon Carroll yn mwynhau arbrofi â chlai a byddai’n addurno ei lestri clai’n aml â hylif clai, a elwir yn ‘slip’. Byddai’n ei dywallt yn hael (bron fel y byddai plentyn yn ei wneud) ar jygiau, mygiau a photiau i greu marciau beiddgar, mynegiannol a gweadeddau diddorol.
Mae’r gegin sebon yn gyfle i ddwylo bach arbrofi ac ymchwilio drwy gyfrwng sebon a dŵr llawn swigod!
Lawrlwythwch ein canllaw ‘sut i’ yma
Mae’r ryseitiau hyn wedi’u cynllunio gan Ticky Lowe a’u darlunio gan Rhi Moxon @TickyLowe @RhiMoxon
Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac mae’n hawdd eu dilyn. Beth am roi cynnig arnyn nhw?
Cadwch lygad am fwy o ryseitiau drwy gydol yr Haf!
Amrywiaeth y grefft Tecstilau i amgylchynu ystod eang o ddefnyddiau, prosesau a swyddogaethau
Teitl priodol i arddangosfa, ond hefyd ar gyfer yr amseroedd rydyn ni i gyd ynddyn nhw yn awr. Roedd arddangosfa 2012 Michael Brennand Wood, Forever Changes yn archwilio Gwehyddu, Brodwaith, Patrwm Lês a blodau
Edrychwch ar ein ffilm Fflickr o’r arddangosfa yma
Cewch wybod mwy am y gwneuthurwr yn ein llyfr sydd i’w weld AM DDIM yma ac a oedd yn cydfynd â’r sioe
A beth am ddefnyddio’r Pecyn Adnoddau a grëwyd gennym ni ar gyfer yr arddangosfa i durio’n ddyfnach i Decstilau, a chael eich ysbrydoli yma i fod yn greadigol gartref
Yn ein pleidlais Mae Crefft yn Cyfri roedd arddangosfeydd Tecstilau’n hynod boblogaidd o fewn y 10 uchaf. I weld pob arddangosfa, cliciwch ar y dolenni.
• #5 (ar y cyd) Crebwyll’ y pwyth, 2016 yma
Jilly Edwards: Llawenydd – Melyn yw’r Glas Newydd, 2018 yma
• #6 Pauline Burbidge: Quiltscapes & Quiltline, 2016 yma
• #7 Jilly Edwards – Adlewyrchiadau & Ymchwiliadau, 2011 yma
Gan fod y ddwy arddangosfa* gan Jilly wedi cyrraedd y 10 uchaf – beth am ddarganfod beth sy’n gwneud ei gwaith Tapestri mor boblogaidd gydag un arall o’n llyfrau sydd i’w gweld AM DDIM yma
*a ddangoswyd o fewn y cyfnod pleidleisio o 10 mlynedd
Bydd tecstilau a’r gelfyddyd o bwyth ac edau’n parhau i wau eu ffordd drwy ein rhaglen o arddangosfeydd –fel y’u gwelir yn fuan gyda’r arddangosfa Egni: degawd o greadigrwydd, gan un o artistiaid tecstilau enwocaf Cymru – Eleri Mills
Dyma ffilm fer i roi blas i chi
Gyda blodau’r Haf o’n cwmpas, dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai themâu blodeuol yn ein harddangosfeydd a’n gwaith o ymgysylltu
Roedd ein harddangosfa Fflora 2017 yn archwilio’r thema hon gydag arddangosfa grŵp o waith 16 o wneuthurwyr mewn nifer o ddefnyddiau
Yr arddangosfa i’w gweld yma
Yr un pryd y tu allan yn ein cwrt yn ystod 2018 roedd gennym ni ddigonedd o flodau, mewn defnydd annisgwyl – diolch i of Iron Vein
Ffilm Flickr o’r arddangosfa i’w gweld yma
Roedd ein rhaglen Codi’r Bar yn 2017 yn gweithio â’r gwneuthurwr Helaina Sharpley yn creu gweirglodd o flodau weiren yn yr arddangosfa gwrt a grëwyd gan y myfyrwyrYma mae Helaina’n dangos i ni i gyd sut i wneud blodyn Barf yr Hen Ŵr drwy arlunio â weiren
Y ffilm i’w gweld yma
Darllenwch flog diweddaraf Codi’r Bar yma
Mae gwneuthurwr arall – Julia Griffiths Jones, hefyd yn defnyddio weiren i ddogfennu’r byd o’i chwmpas. Cafodd ei harddangosfa – Ystafell o fewn Ystafell ei rhoi’n #4 gennych chi yn ein pleidlais Mae Crefft yn Cyfri
Yr arddangosfa i’w gweld yma
Ac fe gewch wybod popeth am waith Julia a’i hysbrydoliaeth, a geir mewn tecstilau Ewropeaidd, mewn un arall o’n llyfrau sydd i’w gweld AM DDIM – Stori sydd raid ei Hadrodd yma
Yn rhan o’n prosiect newydd ‘Cegin Grefft’ rydyn ni’n hynod falch o rannu ein hail rysait â chi sef ‘Chwaraewch â’ch Bwyd’ – wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Charlotte Hodes yn 2019 – ‘Yn dilyn Cymryd Te’
Gallwch weld yr arddangosfa yma
Pa ffordd well o gyflwyno eich plentyn i ffrwythau, llysiau a pherlysiau na thrwy fod yn greadigol ac yn agos a phersonol â nhw yn y gegin!
Lawrlwythwch ein canllaw ‘sut i’ yma
Mae’r ryseitiau hyn wedi’u cynllunio gan Ticky Lowe a’u darlunio gan Rhi Moxon
Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac mae’n hawdd eu dilyn. Beth am roi cynnig arnyn nhw?
Cadwch lygad am fwy o ryseitiau drwy gydol yr Haf!
Roedd ein harddangosfa grŵp 2013 ‘cerfio gofod’ yn ystyried Arlunio hefyd fel dull o archwilio ymhellach waith crefft sy’n fwy 3 dimensiynol a meddwl mwy am arfer Gwneuthurwyr.
Ffilm Flickr o’r arddangosfa i’w gweld yma
Gyda syniadau ar sut i edrych, ystyried ac archwilio ymhellach eich hun – lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau AM DDIM yma
Roedd yr arddangosfa hefyd yn edrych ar wahanol ddefnyddiau a phwysigrwydd lleoliadau daearyddol i waith gwneuthurwyr.
Roedd y Seramegydd Gordon Baldwin, yn ei arddangosfa serameg solo yn 2013, yn sôn am bwysigrwydd ‘synnwyr o le’ yn ei waith.
Ei sgwrs i’w gweld yma
Gyda phleidlais Mae Crefft yn Cyfri rhoddwyd Llif : Laura Ellen Bacon yn #9. Â helyg y bydd Laura’n gweithio ac ar gyfer ei harddangosfa 2014 yn Rhuthun, fe wehyddodd y deunydd crefft
traddodiadol hwn mewn ffyrdd newydd a chyffrous i greu darn gosod a oedd fel llif yng ngofod ein Horiel 2.
Yr arddangosfa i’w gweld yma
Tra bo Laura â ni ar breswyliad, fe gydweithredon ni â Pharc Gwledig Loggerheads lle’r aeth Laura â’r Helyg yn ôl allan i’r amgylchedd ehangach. Wedi’i hysbrydoli gan y ddaearyddiaeth fe weithiodd â grwpiau i greu a llunio gofodau newydd.
Y ffilm i’w gweld yma
Os hoffech archwilio rhyfeddodau helyg a chael mwy ar arfer Laura, edrychwch ar un arall o’n cyhoeddiadau llyfr sydd i’w weld AM DDIM yma
Yn rhan o’n rhaglen barhaus ‘Dwylo Bach’ rydyn ni wedi llunio llu o weithgareddau creadigol i chi roi cynnig arnyn nhw gartref â’ch plant bach. Enw’r rysáit cyntaf yw ‘Cegin Sain’ – archwilio gwahanol ddefnyddiau cegin ac arbrofi i weld pa synau y gallwch eu llunio a’u creu.
Lawrlwythwch ein canllaw ‘sut i’ yma
Gwyliwch ein ffilm fer yma i’ch ysbrydoli!
Mae’r ryseitiau hyn wedi’u cynllunio gan Ticky Lowe a’u darlunio gan Rhi Moxon
Adnoddau minimal sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau hyn ac mae’n hawdd eu dilyn. Beth am roi cynnig arnyn nhw?
Cadwch lygad am fwy o ryseitiau drwy gydol yr Haf!
Dathliad clai ledled y Deyrnas Unedig yw Hey y Clay! Mae’n rhoi’r cyfle i bawb ryddhau eu crochenydd mewnol.
Mae’r digwyddiad Hey Clay! Eleni ar gyfer Canolfan Grefft Rhuthun yn sesiwn archwiliadol rithiol, ar-lein i roi’r cyfle i chi chwarae â chlai beth bynnag fo’ch oed a’ch lleoliad yn ystod y gwaharddiad ar bob symudiad!
Mae Hey Clay! yn rhan o’r ŵyl Byddwch yn Greadigol (9–17 Mai), ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig i gefnogi creadigrwydd pob dydd sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor Crefftau, Celfyddydau Gwirfoddol, Ymgyrch Gelfyddydau’r Teulu, Beth Nesaf?, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau’r Alban, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, 64 Miliwn o Artistiaid a Phobl Greadigol a Lleoedd.
Mae’r ymgyrch Byddwch yn Greadigol yn ymwneud ag annog pawb i roi cynnig ar rywbeth creadigol. Ei nod yw rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth am ddim: rhywbeth y gallent fod eisiau ei wneud yn fwy rheolaidd.
Canolfan Grefft Rhuthun – dathlu Crefft a’r gelfyddyd o wneud
Ymunwch â’r Seramegydd Ceri Wright yn ei stiwdio yng Ngogledd Cymru, lle dangosir i chi’r ffordd o arbrofi â phob ffurf ar lunio â llaw – gyda dulliau pinsio, coilio, slabio a modelu’n cael eu harddangos.
Yna, â’r sgiliau hyn, gallwch greu beth bynnag fydd yn mynd â’ch bryd!
Dysgwch â Ceri gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Cyflwyniad i Hey Clay 2020
Cyflwyniad i Ddeunyddiau
Gweadau
Adeiladu slabiau
Cyflwyniad i Dorchi
Potiau pinsiad
Deinosor
Mae Ceri’n defnyddio eitemau a gwrthrychau o’r cartref – felly does dim angen unrhyw offer arbenigol.
Dim clai? Beth am ddefnyddio clai sy’n sychu yn yr aer, neu blastisin, toes chwarae neu does halen yn lle clai, hyd yn oed farsipán os oes gennych chi beth wrth law!
Pa un ai bot syml y byddwch chi am ei wneud neu aliwn, neu deils o flodau/planhigion a gwasgnodau i gofio’r cyfnod hwn – does dim pen draw!
I ddarganfod mwy am SERAMEG edrychwch ar ddarn o’n pecyn adnoddau PROSES – yma
Efallai yr hoffech hefyd ailymweld â rhai o’n llu arddangosfeydd gemwaith, lle bydd y ‘gemau’ er eu bod yn fychan yn aml, hefyd yn gallu creu ‘Rooms of Dreams’.
Edrychwch ar ein ffilm fflicr o arddangosfa Wendy Ramshaw yma
Gweler mwy o Arddangosfeydd Gemwaith!
Arwyneb a Sylwedd yma
Y Tir Newydd yma
Fritz Maierhofer yma
Barbara Christie yma
Bydd gemwaith yn ‘werthfawr’ yn aml o ran atgofion ac ystyr; er y gall hyn fod felly hefyd mewn defnydd yn aml – does dim rhaid iddo fod:- Edrychwch ar ein harddangosfa Ddim yn Rhy Werthfawr yma
Hefyd dolen i Llyfr Gweld AM DDIM yma hefyd.
Neclis ar gyfer Eliffant a straeon eraill. Daeth y teitl ar gyfer y nodwedd yma o un arall o’n harddangosfeydd gemwaith, yn archwilio gwaith y gwneuthurwr David Poston.
Beth am lawrlwytho ein Pecyn Adnoddau AM DDIM o’i arddangosfa yma i archwilio crefft gemwaith – a chanfod mwy am y “neclis i eliffant”.
Yn y bleidlais ar Mae Crefft yn Cyfri, fe roddoch chi arddangosfa emwaith Kevin Coates yn #8 gyda ‘Bestiary of Jewels’. Gallwch weld yr arddangosfa yma
Pam na wnewch chi ddarganfod mwy am waith Kevin yn ein Llyfr Gweld AM DDIM – ‘A Notebook of Pins’ yma
Y gelfyddyd o wneud a chrefft Gemwaith – hunanfynegiant, cysylltiadau personol ac atgofion sy’n cael eu dwyn i’r cof gan ddefnyddiau, symudiad a gweadeddau gemwaith…
Pam na wnewch chi edrych eto ar arddangosfa emwaith Jane Adam ‘Byth yr un afon’ – sydd ‘i’w gweld’ yn ein horielau via’r daith oriel 3D – yma
Fe ofynnon ni i chi, ein cynulleidfa, bleidleisio dros eich hoff arddangosfeydd o’r degawd a aeth heibio yn ein prosiect Mae Crefft yn Cyfri yn 2018/19, a’r enillydd oedd:- Palas Troed-Rolio Reggie gan Olivia Brown
Mwynhewch olwg arall ar yr arddangosfa yma
Ac roeddem yn meddwl y byddech chi hefyd yn mwynhau golwg ar/darllen cyhoeddiad yr arddangosfa hefyd AM DDIM yma
Roedd yr arddangosfa hon (a llawer mwy a ddangoswyd gennym ni) yn edrych ar Awtomata a chrefft symudiad. Efallai y byddech â diddordeb hefyd yn:-
Martin Smith: Peiriannau Bach yma
Gwên yma
…ac efallai gael hwyl unwaith eto â hud symudol peiriannau Martin Smith sydd wedi’u llunio â llaw.
The Bird Machine / The Coin Machine
Party Popper Machine / The Heart Machine
The Spinning Heart Machine
Wishing You Well / Applause Machine
Felly tra bo’r ganolfan wedi cau’n ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnig cyfle i chi fynd ar daith drwy’r orielau a’r arddangosfeydd sy’n dal i fod yno…
Realiti Rhithwir Canolfan Grefft Rhuthun yma
Yn yr amseroedd cyfnewidiol hyn rydyn ni i gyd yn edrych ar bethau’n wahanol felly roedden ni’n meddwl y gallech chi fwynhau golwg wahanol iawn ar Ganolfan Grefft Rhuthun.
Gwyliwch Caleidosgop: ffilm o’r awyr gan Stephen Heaton yma
Gan fod llawer ohonom yn awr yn canfod fod gennym fwy o amser i edrych o’n cwmpas, i fod yn ddiolchgar nad yw’r Gwanwyn, o leiaf, wedi’i ganslo roedden ni’n meddwl y gallech chi ffeindio bod rhai o’n pecynau adnoddau’n ddefnyddiol i awgrymu gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan ac i helpu i archwilio Crefft a Gwneud.
Mae ein Pecyn Adnoddau ‘O natur’ ar gael i’w lawrlwytho yma
And you might want to take another look at some of the
exhibitions featured in the pack:-
Dail Behennah: Gwaith Maes yma
Gordon Baldwin: Gwrthrychau ar gyfer Tirlun yma
Cerfio gofod: yma
Laura Ellen Bacon: Llif yma
Catrin Howell: yma
Dewch i ddysgu yng Nghanolfan Grefft Rhuthun gyda thiwtoriaid gwych a gwybodus mewn amgylchedd hamddenol. Gyda chiniawau ar gael o Gaffi R yn ogystal â chwrt agored a digon o le parcio rhad ac am ddim ar y safle – mae’n wirioneddol yn amgylchedd wych i gwrdd â phobl o’r un diddordeb ac astudio. Mae’r cyrsiau’n ddi-breswyl, fodd bynnag mae digonedd o lety ardderchog yn Rhuthun a’r fro. Ewch i wefan Croeso Cymru am fanylion. www.visitwales.co.uk
Oni nodir yn wahanol, mae’n ofynnol i bob sgwrs, digwyddiad a gweithdy gael ei archebu o flaen llaw. Rhaid talu ffioedd yn llawn wrth archebu. Nid oes modd cael ad-daliad awtomatig os bydd raid i fynychydd ganslo lle ar gwrs. Gall rhai cyrsiau gael eu newid neu eu canslo os nad oes digon wedi cofrestru.