Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Gweithdy

Gweithdy ‘Torchau’r Ŵyl’ â Kate Jordan. Gellir bwcio

3 Rhagfyr 10.30am – 12.30pm ac 1.30pm – 3.30pm £20.00 ffoniwch i neilltuo lle

Dewch i roi cynnig ar wneud eich torch Nadolig eich hun ar gyfer eich drws neu ddarn canol bwrdd. Bydd Kate yn eich tywys fesul cam drwy’r broses draddodiadol o wneud torch ac yn eich dysgu am ddulliau trin blodau fel rhwymo, pentyrru, weirio a haenu. Fe ddarperir y defnyddiau ond beth am i chi ychwanegu’r cyffyrddiad personol i’ch torchau drwy ddod â’ch deiliant neu ddeunydd hapgael eich hun fel conau, ffrwythau wedi’u sychu neu flodau i’r sesiwn.

WEDI DOD I BEN