Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Digwyddiad

Gwyl Digidol BLINC: Cyfle

arall i weld yr ŵyl ddigidol 31 Hydref 5.30pm – 7.00pm AM DDIM Addas ar gyfer pawb. Dewch â’r teulu!

Yr Hydref hwn byddwn yn goleuo’r cwrt gyda’n gŵyl olau – BLINC.

Yn gynharach eleni, cafodd 3 artist digidol o Gymru eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i arddangos eu gwaith animeiddio yng ngŵyl digidol fawr BLINC yn Adelaide, Awstralia. Nawr mae’r animeiddiadau yn dychwelyd i gael eu harddangos yng Nghymru. I gyd-fynd â’n harddangosfa gemwaith o Awstralia mae’r animeiddiadau / tafluniadau yn cael eu haddasu ar gyfer eu lleoliad newydd: Cwrt Canolfan Grefft Rhuthun. Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cyflwyno gwaith animeiddio gan yr artistiaid Jessica Lloyd-Jones, Wendy Dawson a Sean Vicary. Curaduron BLINC yw Craig Morrison a Joel Cockrill.

WEDI DOD I BEN