Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Digwyddiad

Gwyliau’r Pasg

7 Ebrill

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Grefft Rhuthun y Pasg hwn ar gyfer llu o ddigwyddiadau cyffrous i’r teulu cyfan eu mwynhau wedi eu hysbrydoli gan ein harddangosfeydd!

Adlewyrchiadau: Clwb Crefftau plant 5–11 oed Dydd Iau 7 Ebrill, 10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm. £5.00 ffoniwch i neilltuo lle. Mae’n rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gydag o. Yn ystod y gweithdy byddwn yn gwneud caleidosgopau a pherisgopau fydd wedi’u hysbrydoli gan yr ‘Arch’ gawraidd a fydd yn glanio yng nghwrt Canolfan Grefft Rhuthun y Pasg hwn wedi’i chreu gan yr artist.

Mae’r Gyfres Straeon Artistiaid yn ôl! Stiwdio 5
Yn lansiad ein thema newydd Proses yn rhan o’r rhaglen Beth yw Crefft? rydyn ni wedi gwahodd dau ymarferwr crefft i rannu eu doniau a’u dulliau crefftus â chi’r Pasg hwn. Beth am roi cynnig arni eich hun gan y byddwn yn cynnig cyfres o weithdai prynhawn AM DDIM sy’n deulu-gyfeillgar drwy gydol y gwyliau.

WEDI DOD I BEN