Rydyn ni’n falch o groesawu’n ôl y dyluniwr tecstilau Janet Bolton. Prif syniad y gweithdy hwn yw annog cyfranogwyr i ddatblygu eu syniadau eu hunain, gydag awgrymiadau addas a help o’r cychwyn cyntaf. Does dim angen cael syniad penodol dan sylw ond dewch â syniad syml os hoffech chi.
Gan weithio’n uniongyrchol â’r ffabrig fe wnaiff Janet esbonio ac arddangos y dulliau torri a gwnïo syml sy’n ofynnol, a disgrifio’r cyffro o adel i’r syniad newid a datblygu hyd at y pwyth olaf un.
Drwy gydol y ddau ddiwrnod fe wnaiff Janet arddangos pwysigrwydd cyflwyno a fframio eich gwaith mewn ffordd sy’n gydymdeimladol i’r cyfansoddiad yn rhan o werthusiad grŵp.
WEDI DOD I BEN