Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Sgwrs a Digwyddiad

Lansio Llyfr a Sgwrs

â’r awdur Peter Lord 19 Mawrth 2.30pm

Sgwrs 50 munud ac yna llofnodi llyfrau.

Ymunwch â ni ar gyfer lansio llyfr newydd Peter Lord The Tradition: a New History of Welsh Art 1400–1990 (Parthian, 2016), y cyfrif cyntaf o’r pwnc i gael ei gyhoeddi mewn cyfrol sengl am dros hanner canrif. Mae’r cyhoeddiad pwysig hwn yn mynegi newid cenedliadol yn y ffordd rydyn ni’n deall ac yn gwerthfawrogi diwylliant gweledol Cymru. Mae Peter Lord wedi cyhoeddi ac wedi darlledu’n eang ar ddiwylliant gweledol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bu’n guradur arddangosfeydd mawr ar gyfer sefydliadau cenedlaethol.

WEDI DOD I BEN