Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol

← YN ÔL I'R ARCHIFAU
Gweithdai

Portffolio Ysgol Gelf yr Haf 2015

Bloc 1: Elly Strigner 27 & 28 Gorffennaf 11.00am – 4.00pm Mae pob bloc o 2 ddiwrnod yn £12.50 neu gallwch ddod i bobun o’r 4 bloc (8 gweithdy) am £40

Darlunio ac Animeiddio

Mae Elly yn ddarlunydd, yn animeiddiwr ac yn ysgrifennwr: yn wreiddiol o Ogledd Cymru ond yn byw ac yn gweithio’n awr yn Llundain. Mae wrth ei bodd yn darlunio, yn adrodd straeon ac yn gwneud pethau. Mae wedi creu animeiddiadau gweledol ar gyfer perfformiadau yng Ngŵyl Celfyddydau Digidol Blinc yng Ngogledd Cymru a Gŵyl Sensoria yn Sheffield. Mae ei darluniau i’w gweld yn rheolaidd yn y cylchgrawn ffuglen digidol Cracked Eye, ac fe gyhoeddwyd ei stori fer ‘Floods’ yn rhan o’r antholeg Jam gan MardiBooks yn 2013.

Y Gweithdy: Yn ystod y gweithdy deuddydd byddwch yn darganfod sut i wneud ystod o farciau, gweadeddau a phatrymau wedi’u printio, gan ddefnyddio dulliau darlunio, collage a gwneud printiau. Byddwch yn casglu’r rhain yn eich hap-drysor personol eich hun o adnoddau i’w defnyddio i greu cyfres o ‘collage’ a darluniadau cyfryngau cymysg yn seiliedig ar thema. Yna byddwch yn darganfod sut i greu bwrdd stori ar gyfer eich gwaith celf, ac yn animeiddio un (neu lawer mwy!) o’ch darluniadau, fel y daw’n ddarlun sy’n symud.

WEDI DOD I BEN