Ydych chi wedi bod eisiau rhoi cynnig ar wehyddu ar Wŷdd erioed?
Yn ystod y penwythnos arbennig hwn bydd Laura Thomas, un o’r artistiaid tecstilau o’n harddangosfa gyfredol ‘Edefyn Tywyllach’ yn ymuno â ni.
Gan gael ysbrydoliaeth o’n rhaglen ‘Mae Crefft yn Cyfri’, byddwch yn defnyddio dewis o ddefnyddiau o’r rhestr o ddeg o benblwyddi traddodiadol, yn cynnwys papur, cotwm a gwlân. Rhowch gynnig ar greu gwehyddiad grŵp ar wŷdd bwrdd, yn ogystal â’ch gwehyddiad mini eich hun i fynd adref efo chi.
Mae’n rhaid i bob plentyn fod ag oedolyn gydag o.
WEDI DOD I BEN